Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o dan ormes y Dreth Eglwys. Ar gychwyniad yr ymdrech i daflu ymaith y baich, taflodd y Dr. Price ei hunan i'r ymdrech â'i holl galon, â'i holl enaid, â'i holl nerth; ac nid hir y bu cyn taro gwrthddrych ei ddygasedd â dyrnod angeuol. fel y cyfaddefai y Ficer Griffiths, wedi hyny Periglor poblogaidd Merthyr Tydfil, fod yr angenfil wedi trengu, a bod yn rhaid claddu yr ysgerbwd. Wedi hyny, yn 1847, cymmerodd ran blaenor yn yr ymgyrch genedlaethol o blaid merched a gwragedd Cymru yn ngwyneb camgyhuddiadau offeiriadon Eglwys Loegr wrth yr yspïwyr estronol hyny a ddanfonwyd gan y Llywodraeth i'n gwlad i edrych ansawdd foesol y Dywysogaeth. Mewn gair. tra y bu y Dr. yn ein mysg, yr oedd bob amser yn barod i ddyfod allan i wrthwynebu ymdrechion gelynion estronol, yn nghyd ag eiddo bradwyr cartrefol, yn erbyn ein hiaith, ein gwlad, ein cenedl, a'n crefydd."

Yr amgylchiad y cyfeiria yr hybarch Ddr. Morgan ato ydyw mater cael claddfa gyhoeddus i Aberdar. Wedi dyfodiad Deddf Cau y Mynwentydd mewn grym, symmudwyd gan brif ddynion Aberdar i gael claddfa gyhoeddus i'r lle: cyhoeddwyd festri yn yr Hen Neuadd Drefol, a gweithiodd Blaid Eglwysig yn dda i gario allan eu cynlluniau a chyrhaedd eu hamcanion i gael y cwbl dan eu rheolaeth. Cymmerwyd y gadair gan Mr. H. A. Bruce, a rhan yn y cyfarfod gan Mri. Crawshay Bailey, Thomas Wayne (Gadlys), R. Fothergill, y Parch. J. Griffiths (y Ficer), ac ereill; ond yr oedd yr Ymneillduwyr wedi dechreu dihuno ac wedi dyfod yno yn lluosog ar gymhelliad y Parch, Thos. Price, Penypound, Mr. Thomas Joseph, ac ereill. Cynnygiwyd gan Mr. Crawshay Bailey ac eiliwyd gan Mr. Thomas Wayne, (1) Fod claddfa gyhoeddus i fod, ac fod y tir i gael ei drainio a'i furio o gwmpas. (2) Fody gladdfa gyhoeddus i fod dan ofal ac awdurdod Ficer y plwyf. (3) Fod Treth Eglwys i'w chodi ar y plwyf i gyfarfod yr holl dreuliau cyssylltiedig â hi. Cyn gosod yr uchod i'r cyfarfod wele Mr. Thomas Joseph ar ei draed, ac yn cynnyg gwelliant, a Price ar unwaith yn myned yn mlaen i'r flaensedd, yn gwynebu y gynnulleidfa, ac yn eilio y gwelliant mewn araeth hyawdl, danllyd, ac anatebadwy, yn y Saesneg am tua hanner awr. Trodd y byrddau yn llwyr ar y rhai oeddynt wedi bwriadu a chynllunio cael pobpeth i'w dwylaw eu hunain. Cariodd y gwelliant gyda mwyafrif mawr, ac i gefnogi Price am ei wroldeb, cododd Mr. R. Fothergill i ddweyd ei fod yn hollol o'r un farn â'r dyn ieuanc Price