Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tugel ddyfod yn ddeddf y wlad, a dymunai arno gofio nad oedd efe (Mr. Bruce) ond gwas mewn ystyr, yn agored i gael ei droi o'r neilldu a chael arall yn ei le. Cyfeiriodd Price yn ei araeth alluog yn y cyfarfod hwnw at amryw o fesurau pwysig ydynt erbyn heddyw yn ddeddfau y deyrnas. Dangosai hyn y gwleidyddwr ieuanc llygadgraff oedd y pryd hwnw yn cael ei alw yn "Price Penypound." Yr oedd Price yn un o brif arwyr y cwrdd soniedig, oblegyd bu yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r etholiad y flwyddyn hono. Edrychid arno, a siaredid am dano, yr adeg hono fel un o'r etholiaduron mwyaf effeithiol a phoblogaidd. Gweithiodd mor dda, brwydrodd mor lew, fel yr ennillodd barch ac edmygedd holl Ryddfrydwyr y sir, a dangosodd rhai eu syniadau ffafriol am dano fel y gosodasant ef yn destyn pryddest mewn eisteddfod o gryn fri ac Yn y Gwron am Hydref 31, 1857, ymddangosodd y bryddest fuddugol, awdwr yr hon oedd yr enwog Lew Llwyfo. Wele y pennawd:—"Pryddest i'r Parch. Thomas Price, Aberdar, am ei ymdrechion clodwiw yn yr etholiad diweddar yn Morganwg. Buddugol yn Eisteddfod Ystradyfodwg ar y 14eg o Fedi, 1857." Mae y bryddest brydferth a godidog hon yn rhy faith i'w gosod i fewn yma, er mor fawr y carem allu gwneuthur hyny; etto, anturiwn osod ambell adran fechan lle y gwelwn ddarlun o Price, ac y teimlwn megys guriadau ei galon wrol. Dywed y bardd,

"Pan oedd cyffro drwy yr holl wladwriaeth,
A dwyblaid gref yn ceisio buddugoliaeth,
Gormes a rhyddid yn noethi eu cleddyfau,
Yn casglu eu lluoedd, ac yn ffurfio eu rhengau,
I frwydr ar faes etholiad cyffredinol,
Daeth Price yn mlaen yn arddull arwr nerthol
I frwydro o dan faner chwifiawg Rhyddid;
Dadweiniodd ei ddaufiniog gledd trybelid;
Ar ben y rheng y gwelid ef yn amlwg
Yn llywio adran rymus Swydd Forganwg.

Forganwg hoff! ti gefaist ymdrech galed
I gadw'th ben rhag gormes a chaethiwed.
Gwnaed beiddgar gais gan lu o dreiswyr trawsion
I'th gael i ethol gwr i blith Seneddion
A wrthwynebai bobpeth sydd ryddgarol,
A dwyn dy enw mawr i warthrudd oesol;
Ond gwelwyd Price yn mysg dy feib Rhyddfrydig
Yn ymladd drosot gydag aidd llwyrfrydig;
Dan eu harweiniad, darfu iti ethol
Rhai amddiffynant dy iawnderau gwladol—