Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhai a ymrestrant o dan faner Rhyddid—
Gwyr teilwng o dy fawredd a'th gadernid.
Ond gwelid dewrion ar y maes yn barod,
A Price yn arwr yn y fyddin hyglod,
Yn arllwys ei gawodydd o hyawdledd
Yn erbyn gormes ac o blaid gwirionedd.
Ymrodd yn wrol dros ein hannybyniaeth,
Attegodd heirdd golofnau Ymneillduaeth
A rhyddid gwladol yn ei holl agweddau,
Gan benderfynu cadw ein hiawnderau,
Ac ennill tir y dylem ei feddiannu
Tir newydd lawer er ein gwir ddyrchafu.
Anfadrwydd gormes a wnaeth ef yn amlwg ;
Ymrodd i'w charthu byth o hen Forganwg;
Yr oedd ei areithyddiaeth fel tân ufel
Yn difa Toriaeth ar faes mawr y rhyfel,
A'i wych ysgrifeniadau yn trydanu
Calonau gwladgar meibion dewrion Cymru.

Terfyna fel y canlyn:—

Ar frwydr faes Etholiad Cyffredinol,
A fynent ddial mewn etholiad lleol;
Ac wedi arfer pob ystranc ac ystryw
Na fu o fewn ein gwlad erioed ei gyfryw,
Maent heddyw yn siomedig eu teimladau,
Ac mewn cywilydd dwfn yn cuddio u penau,
A Price a'i blaid mewn perffaith oruchafiaeth,
Yn gallu gwenu ar eu gwael ddallbleidiaeth.
Wladgarol foneddwr, mwynhewch eich anrhydedd,
Parhaed eich gwych enw mewn oesol glodforedd."

Un o'r brwydrau gwleidyddol poethaf y bu y Dr. ynddi erioed oedd etholiad Merthyr ac Aberdar yn nechreu y flwyddyn 1868. Cymmerodd amgylchiadau dro rhyfedd yr adeg hono, a chafodd y Dr. ei hun mewn sefyllfa gyfyng, ac i raddau yn anhapus, er iddo ymddwyn yn eithaf cysson yn yr ornest o'r dechreu i'r diwedd. Yn yr etholiad soniedig yr oedd aelod ychwanegol, neu ail aelod, yn cael ei roddi am y tro cyntaf yn Merthyr ac Aberdar. Cyflwynodd pum' boneddwr parchus eu hunain i sylw y fwrdeisdref, gan geisio yr anrhydedd o'i chynnrychioli yn y Senedd; ond enciliodd dau o honynt, sef B. T. Williams a W. M. James o'r maes cyn yr etholiad. Yr oedd y Dr. a'r hen aelod, y Gwir Anrhydeddus H. A. Bruce, yn hen gyfeillion, ac wedi ymladd llawer brwydr wleidyddol galed gyda'u gilydd, er nad oedd Mr. Bruce mor Rhyddfrydol ag y carai y Dr. iddo fod, yn neillduol mewn cyssylltiad â'r tugel, y Dadgyssylltiad a'r Dadwaddoliad. Yr oedd yn naturiol