iddo barhau yn ffyddlon i'r hen aelod oedd wedi rhoddi gwasanaeth gwerthfawr iddynt am ryw bymtheg mlynedd, hyd y caffai resymau digonol i'w daflu dros y bwrdd. Ni chollodd Richard Fothergill amser na chyfleusdra i wneyd ei fwriad i ddyfod allan yn ymgeisydd yn wybyddus i'r etholwyr; ac fel un fu yn cydweithio mewn llawer o gyssylltiadau â'r Dr. i godi sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol, a chrefyddol Aberdar, yr oedd yn naturiol iddo geisio dylanwad a chynnorthwy ei hen gyfaill Dr. Price. Llwyddodd i sicrhau ei addewid, ac ymbarotodd yn ebrwydd i'r frwydr. Yn y cyfamser, cymhellwyd y diweddar barchus ac anrhydeddus aelod, Mr. Henry Richard, i ddyfod allan, a chydsyniodd yntau â'r cais, a hyn a wnaeth i'r Dr. gael ei wthio i gyfyngder, oblegyd yr oedd efe ei hun wedi bod yn galw flynyddau cyn hyny sylw Merthyr ac Aberdar a Chymru o ran hyny at Mr. Henry Richard fel un cymhwys i gynnrychioli rhyw ran o Gymru yn Senedd Prydain Fawr. Ysgrifenwyd llawer o lythyrau o bob tu yn yr ymgyrch etholiadol hon, a chyhoeddid anathema o wahanol gyfeiriadau ar y Dr. am ei fod, fel y camddarlunid ef, i niweidio achos y rhai a bleidiai, yn ymddwyn yn annghysson; ond bu y Dr. yn alluog i amddiffyn ei hun, ac i roddi rhesymau digonol i'r diragfarn am y cwrs a gymmerodd. Er fod llawer o guro arno y pryd hwnw o wahanol gyfeiriadau, etto, amddiffynid ef gan wleidyddwyr goleuedig a phrofiadol, fel y cawn enghraifft yn y dyfyniad canlynol:—
"Ni a gymmerwn y cyfle yn y fan yma i ddiolch i ohebydd a chyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru am y dull boneddigaidd a pharchus y maent yn ysgrifenu am Dr. Price, mewn ysgrif arweiniol, yn cynnwys yn agos i naw colofn o'r Faner, am Hydref 30, 1867. Dyma y ffordd i ni ddeall ein dyledswydd, deall ein gilydd, a chyrhaedd yr amcan pwysig o wneyd y goreu dros Gymru yn yr ymdrech a gymer le yn 1869. Mae Dr. Price wedi cael digon o'i gablu bellach, ac y mae yn iechyd i ddyn ddarllen yr ysgrif faith sydd yn y Faner. Mae yn llym mewn rhai manau—mae fymryn yn gamsyniol mewn manau ereill; ond beth am hyny, mae yn ddynol, yn onest a gwyneb-agored, ac yn hynod o barchus i'r dyn sydd dan y wialen fedw. Oni bai y gras o ostyngeiddrwydd sydd ynom, byddem yn teimlo awydd i godi yr ysgrif bob llinell o'r Faner i'r Seren; ond y mae yn rhy dda i ni yn wir ; nid ydym yn haeddu yr holl glod a roddir i Dr. Price yn yr ysgrif dan sylw; ond etto, diolchwn am bob llinell sydd yn yr ysgrif faith hon."
Gweler Seren Cymru am Tachwedd 8, 1867.