Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Seren Cymru am Ragfyr 13, 1867, cawn lythyr galluog a maith gan y diweddar hybarch Daniel Morgan, Blaenafon, at y Dr. ar y mater, mewn atebiad i'r hwn mae y Dr. yn yr un Seren, ac yn y colofnau dylynol, wedi ysgrif— enu llythyr maith yn egluro ei sefyllfa, ac yn rhoddi rhesymau am y llwybr a gymmerai. Byddai yn dda genym allu rhoddi ei lythyr yma, ond gan ei fod mor faith, ni osodwn ond yn unig ei ragymadrodd i'r pwyntiau gânt ei sylw yn y llythyr, a bydd hyny, ni a gredwn, yn ddigon i ddangos y sylw dderbyniai yr achos, a'i deimlad a'i benderfyniad yntau yn yr helynt. Dywed,

"Diolch yn fawr i chwi, frawd anwyl, am eich llythyr caredig, a chymmeraf y cyfle presenol i ddiolch hefyd i T. Minchell, Ysw., Wrexham; C. Darley, Ysw., Brymbo; Dr. Prichard, Llangollen; Parch. H. S. Brown, Lerpwl; T. E. Minchell, Ysw.; Dr. Thomas, Pontypool; W. H. Darby, Ysw.; Thomas Gee, Ysw. ; Henry Richard, Ysw. ; C. H. James, Ysw., a lluaws ereill o foneddigion na welais hwynt erioed ac oll ar yr un testyn â chwithau, a'r oll fel y chwithau yn ymddwyn yn foneddigaidd a brawdol—mor wahanol i'r cableddau anwireddus sydd wedi eu lluchio ataf wythnos ar ol wythnos o dan fantell ffugenwau, oddiwrth y rhai a broffesant eu hunain yn gyfeillion i Mr H. Richard; ond, mewn gwirionedd, y gelynion penaf a fedd efe a'r achos a bleidia; am hyny, crefaf eich hynawsedd, tra yn gwneyd sylw neu ddau mewn atebiad i'ch cais caredig a boneddigaidd. Gwnaf hyny nid fel un o olygwyr Seren Cymru, nac fel gweinidog yn Nghymmanfa Morganwg, ond fel dinesydd ac etholwr yn Mwrdeisdref Merthyr ac Aberdar. Nid oes neb i fod yn gyfrifol am yr hyn a wnaf yn y cymmeriad o ddinesydd ac etholwr, ond myfi fy hun. Yr wyf yn teimlo gorfodiad i ddweyd hyn, gan fy mod wedi profi rhyddid llawer o'r rhai a broffesant eu hunain yn rhyddgarwyr yn greulon i mi; nid oes unrhyw erledigaeth yn rhy isel a gwael iddynt."

Yna rhydd y Dr. ei resymau yn gyflawn ac eglur, a chredwn eu bod yn ddigonol i'w gyfiawnhau am ei ymddygiad a'i weithrediadau. Terfyna ei lythyr drwy ddweyd,

Gwn, anwyl frawd, y rhoddwch chwi i mi gredit o fod yn onest a chydwybodol. Nid yw Fothergill, na Bruce, na Richard, yn ddim i mi, nid wyf yn nyled un o honynt; ni ddarfu i mi ofyn am werth hatling erioed o ffafr bersonol oddiar law un o'r tri. Felly, yr wyf yn ymddwyn yn gwbl annibynol, ac oddiar argyhoeddiad fy mod yn gwneyd