Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y peth goreu i'r trefydd pwysig sydd yn ffurfio y fwrdeisdref; tra ar yr un pryd yn sicrhau aelod hollol ryddgarol yn ystyr oreu y gair."

Tebyg fod llawer iawn o'r teimladau chwerwon a godent ac a ddangosid tuag at y Dr. yr adeg hono yn tarddu oddiar deimlad enwadol yn fwy nâ dim arall, yr hyn sydd yn rhy aml yn cael ei arddangos i raddau gormodol mewn etholiadau; ond er llymder yr erlidigaeth i gyd a'r stormydd chwerwon yr aeth drwyddynt, gweithiodd Price yn egniol a phenderfynol drwy yr ornest, ac er i'r hen aelod gael ei ddiseddu, ni chollodd Rhyddfrydiaeth ddim, oblegyd dychwelwyd dau Ryddfrydwr trwyadl, a chydweithiasant yn hwylus am amryw flynyddau.

Yn y flwyddyn 1865 cawn y Dr. Price yn ymgeisydd Seneddol yn ei hen sir enedigol, Brycheiniog. Trwy farwolaeth y Milwriad Watkins daeth y gynnrychiolaeth yn rhydd, ac yr oedd dau foneddwr, Mr. Gwyn o'r Dyffryn ac Iarll Aberhonddu, yn ymgeisio am fod yn olynydd iddo. O'r ddau hyn, Iarll Aberhonddu oedd y mwyaf Rhyddfrydol, er nad oedd efe o bell ffordd yn dyfod i fyny â'r hyn y carai Rhyddfrydwyr goleuedig ac egwyddorol Aberhonddu iddo fod. Gan nad oedd syniadau politicaidd y ddau ddyn hyn yn rhoddi cyflawn foddhad i gorff mawr Rhyddfrydwyr y fwrdeisdref hon, anfonasant gais taer at y Dr. Price i sefyll fel ymgeisydd, ac anfon anerchiad yn ddiymaros at yr etholwyr. Mewn atebiad i hyn dywedai y Dr. "mai ei ddymuniad gwirioneddol a chalonog ef fuasai gweled boneddwr o ddylanwad lleol ac o olygiadau goleu a digamsyniol yn cynnrychioli Aberhonddu; pe byddai i Iarll Aberhonddu osod o flaen yr etholwyr gyffes wleidyddol eglur a dealladwy, gan ddatgan ei barodrwydd i fyned yn mlaen gyda'r oes i ddiwygio y Cyfansoddiad Prydeinig, i roddi ei le priodol yn yr etholres i'r gweithiwr diwyd a gofalus, ac i ryddhau crefydd oddiwrth ei chyssylltiad ansanctaidd â'r wladwriaeth, y byddai yn dda ganddo ef ei weled yn cynnrychioli y dref henafol sydd yn rhoddi iddo ei deitl." Ond gan nad oedd y naill gynnrychiolydd na'r llall yn dyfod i fyny â hyn, credai mai dyledswydd yr etholwyr oedd ymwrthod â'r ddau. Yn methu cael cynnrychiolydd Rhyddfrydol addas a theilwng i'w boddloni, y mae etholwyr Rhyddfrydol Brycheiniog yn parhau i ddal eu gafael yn y Dr., er ei fod ef yn flaenorol wedi nacau, gan eu cyfeirio at foneddion o addasrwydd