Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o wahanol gyfrinfaoedd, yn yr oll o'r rhai yr oedd yn ddef- nyddiol a phoblogaidd. Efe fyddai yn arwain mewn unrhyw achos o bwys ganddynt bob amser, ac os byddai unrhyw un o'r cyfrinfaoedd mewn cyfyngder, Price oedd yr unig waredwr i redeg ato. Llafuriodd yn galed gyda'r urddau oll, a gwnaeth ddaioni mawr iddynt; ond gyda'r Odyddion a'r Iforiaid y llafuriodd helaethaf. Credwn mai gyda'r urddau hyn y myfyriodd efe y cyfansoddiadau ac y mynodd ddeall peirianwaith y cyfundebau dyngarol a chyfeillgar; a chan fod yr urddau ereill yn sylfaenedig yn agos ar yr un seiliau, ac yn cael eu llywodraethu gan ddeddfau cyffelyb, yr oeddynt yn cael mantais o'i wybodaeth eang a'i brofiad aeddfed, ac nid oedd hyny yn costio llawer iddo, gan ei fod wedi gallu amgyffred y cyfansoddiadau Odyddol ac Iforawl yn dda. Yr oedd y gwaith a gyflawnodd yn gyssylltiedig â'r holl gymdeithasau yn debyg o'r un natur ag a gyflawnai gyda'r Odyddion a'r Iforiaid. Felly, wrth ei ddangos gyda'r undebau anrhydeddus hyn, byddwn hefyd yn ei ddangos yn yr oll. Teimlodd ddigon o ddyddordeb ynddynt i gyd, a llafuriodd yn ddigon caled gyda phob urdd, a gallasem gael digon o ddefnyddiau i wneyd pennod ar ei gyssylltiad â phob un o honynt ar wahan, ond ymattaliwn am y rheswm a nodwyd gyda sylwi ar ei berthynas â'r ddau urdd uchod. Mae yr Undeb Odyddol yn ddiau yn un o'r urddau eangaf ei gylch, lluosocaf ei aelodau, a chyfoethocaf ei drysorfeydd o'r holl undebau, ac y mae terfynau Iforiaeth yn eang a chylch ei gweithrediadau yn llydan a phwysig. Mae deall natur y budd-gymdeithasau hyn, amgyffred eu rheolau, a'u gosod mewn gweithrediad ymarferol, yn golygu cryn allu a medr. Yn ystod y blynyddau meithion y bu y Dr. yn gyssylltiedig â hwynt, nid oedd neb wedi deall eu natur yn well nag ef, ac ni chafwyd un erioed allai esponio eu deddfau a'u rheolau yn debyg iddo. Nid oedd hyn i'w ryfeddu yn gymmaint, oblegyd efe yn gyffredin fyddai yn tynu i fyny eu rheolau, eu diwygio, neu eu cyfieithu o hyd; felly, byddai y cwbl ar flaenau ei fysedd a'i dafod. Gwyddai hefyd Gyfraith Seneddol y Cymdeithasau Cyf- eillgar yn dda, ac yr oedd hyn yn rhoddi mantais an- nhraethol iddo ar lawer. Bu o wasanaeth ugeiniau o weithiau mewn cyfrinfaoedd, pwyllgorau, cyfarfodydd chwarterol, a chynnadleddau blynyddol, mewn pender- fynu dadleuon godid gan rai ar reolau allent fod mewn rhai amgylchiadau yn aneglur, neu mewn pwynt o gyfraith.