Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofus genym, pan yn ieuanc iawn, i ni fod yn cynnrychioli ein cyfrinfa mewn cwrdd chwarterol gyda yr Iforiaid, ac yr oedd rhai o'r penboethiaid Iforaidd yn dadleu yn gyndyn ar fater yno, ac yn hytrach na goleuo, ymddangosai pethau fel pe yn myned yn fwy tywyll. Ond wele guriad awdurdodol wrth y drws, a thrwyddair yn cael ei roddi, ac yn y man, wele y Dr. yn dyfod i fewn yn llawn bywyd a sirioldeb. Torodd y wawr ar y cwrdd—newidiodd agweddiad y cwbl, ac eisteddai y crach-ddoctoriaid Iforaidd yn dawel. Cyfeiriwyd achos y ddadleuaeth i sylw y Dr., ac ar unwaith, atebodd fod y mater fel a'r fel. Adroddodd gyda rhwyddineb mawr ranau o'r gyfraith, a chyfeiriodd at y bennod a'r adnod. Yna, tynodd lyfr bychan wedi ei rwymo yn dlos allan o'i logell, a darllenodd y gyfraith yn llawn ar yr achos o hono, fel yr oedd wedi dweyd yn flaenorol. Rhoddodd hyny derfyn ar y ddadl, ac aeth y gwaith yn mlaen yn hwylus. Cawsom ddyfyrwch mawr yn ei gwmni drwy y dydd, a buom byth â golwg fawr arno wedi y tro hwnw. Ni chyfeiliornwn wrth ddywedyd mai fel hyna y gwnaeth y Dr. gannoedd o weithiau yn yr undebau dyngarol ereill, a phwy a wyr werth dyn o'r fath?

Yr oedd y gwaith a wnaeth gyda hwynt a throstynt yn amrywiol iawn yn ei natur. Ysgrifenodd ugeiniau o erthyglau galluog i'r gwahanol newyddiaduron o'i gadair olygyddol, yn galw sylw at faterion pwysig ac amrywiol perthynol iddynt, gan roddi iddynt bob amser y cynghorion a'r cyfarwyddiadau goraf. Bu yn darlithio iddynt ar bynciau perthynol i'r cymdeithasau, bryd arall ar destynau mwy cyffredin, er budd y cyfrinfaoedd gweinion fuasent yn isel eu trysorfeydd, neu i gynnorthwyo yn elusengar frodyr angenus fuasent wedi methu gan afiechyd neu drwy ddamweiniau. Gwnaeth lawer iawn o hyn, ac yn gyffredin yn ddidâl. Pan na fyddai yn darlithio ei hun, cymmerai ran yn eu cyfarfodydd gwahanol, megys llywyddu mewn darlithiau, budd—gyngherddau, cyfarfodydd llenyddol, eisteddfodau, &c. Hoffent bob amser gael Price yn y gadair, oblegyd yr oedd yn dra deheuig a hapus yn gosod eu cyflwr a'u hawliau o flaen y cyhoedd, ac hefyd, gosodai ei bresenoldeb fri ar y cyfarfodydd. Llanwai hefyd swyddau pwysig yn y cyfrinfaoedd, yr adranoedd, ac yn yr undebau. Yr oedd yn ymddiriedolwr i lawer o honynt. Yr oedd yn drysorydd ac yn is—drysorydd gyda'r Odyddion, yr Iforiaid, a'r