Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod yn arweinydd, ac yn wir, yn cael ei ystyried a'i gydnabod yn dywysog megys ar o 16,000 i 18,000 o aelodau Odyddol yn Neheudir Cymru; ond nid oedd hyny yn ddim o'i gymharu â'r anrhydedd o eistedd yn y gadair lywyddol i ysgwyd mewn ystyr ei deyrnwialen dros tua 400,000 o aelodau yr urdd.

Yn mis Mai, 1864, yn Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb, cawn y Dr. yn ymgystadlu ag wyth o foneddion teilwng am yr is-gadair, a safai y pleidleisiau fel hyn:—

John Harris, Ysw., Llundain, 2; W. N. Waldraw, Ysw., Leicester, 4; John Deprose, Ysw., Llundain, 7; John Houghton, Ysw., Warrington, 9; David Jack, Ysw., Durham, 10; James Curtis, Ysw., Brighton, 24; John Geves, Ysw., Leeds, 45; Dr. Price, Aberdar, 83. Felly, etholwyd ef i fod yn is—lywydd y cyfundeb. Yr oedd hwn yn anrhydedd na dderbyniwyd gan un Cymro erioed o'r blaen. Hefyd, yr oedd y mwyafrif mawr pleidleisiau a gafodd yn llefaru yn uchel am syniadau parchus y Saeson am dano a'r parch mawr a deimlent ato.

Dydd Gwener, Mehefin y 9fed, 1865, dyrchafwyd y Dr. o'r is-gadair i'r uwch-gadair heb unrhyw wrthwynebiad. Nid oedd neb wedi ei gynnyg yn ei erbyn. Yr oedd hyn yn garedigrwydd yn ei frodyr y Saeson, ac yr oedd y dewisiad unfrydol hwn y nod uchaf o barch a allasent, fel Odyddion, byth ei ddangos i ni, y Cymry——gwneyd hyn yn mherson un a berchid gan yn agos i BEDWAR CAN' MIL o Odyddion drwy y byd. Gyda bod y Dr. yn y gadair lywyddol, daeth Mr. Curtis, y boneddwr oedd wedi ei ethol i'r is-gadair ac yn olynydd i'r Dr., yn mlaen, a dywedodd ei fod ef, yn absenoldeb Mr. Phillip John, o Aberdar, yr hwn oedd wedi gorfod ymadael er dal y trên, yn cyflwyno i'r Cymro cyntaf fu yn y gadair hono ffon hardd a thlos, gyda ferrule arian, ar yr hon yr oedd yn gerfiedig y geiriau, "Dr. Price, Aberdare—See the Conquering Hero comes— Worcester A.M.C., 1865." Dywedai Mr. Curtis fod Mr. John wedi dymuno arno i hyspysu y cyfarfod i Garibaldi fyned i fewn i Naples â ffon yn ei law yn lle cleddyf, ac fod y Dr. yn dyfod i fewn i'r gadair uchaf yn yr undeb heb unrhyw wrthwynebiad, ac fod y Cymry am gofnodi y ffaith drwy ei anrhegu â'r ffon hon. Cyflwynwyd y ffon yn nghanol cymmeradwyaeth y dorf.

Yn ystod blwyddyn ei swyddogaeth fel Uwch-Lywydd yr Undeb, cynnaliwyd llawer o gyfarfodydd groesawol a