llongyfarchiadol i'r Dr. enwog yn ngwahanol barthau Cymru—De a Gogledd, ac mewn rhai manau yn Lloegr, a chafodd giniawau cyhoeddus mewn anrhydedd iddo. Hefyd, cyflwynwyd iddo nifer lluosog o anerchiadau priodol ac anrhegwyd ef â rhoddion gwerthfawr—yr oll yn fynegiant o'r teimladau goraf ato a'r syniadau uchaf am dano.
Tachwedd y 10fed, 1865, gwnawd gwledd ardderchog i'r Dr. yn Ngwrecsam, a chyflwynwyd iddo anerchiad destlus. Wrth ei dderbyn dywedai "nas gallai gael geiriau priodol i gydnabod y cyfeillion. Edrychai ar yr anerchiad fel campwaith celfyddyd; ond pan y cofiai am y teimladau a ddadblygai, nis gallasai feddwl yn rhy uchel am dano. Caffai y lle goreu yn ei Rose Cottage, a throsglwyddai ef i'w berthynasau ar ei ol fel un o'r trysorau goreu feddai."
Rhagfyr yr 8fed, 1865, yn y Music Hall, Abertawe, etto, darparwyd ciniaw er anrhydedd iddo, pryd yr oedd tua thri chant o gylch y bwrdd yn cydwledda ac yn cydlawenhau am lwyddiant ac anrhydedd y Dr. Cafodd yma etto anerchiad wedi ei ysgrifenu yn ddestlus iawn ar vellum. Wrth ei dderbyn diolchodd y Dr. am dano yn foesgar, a thraddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl ac addysgiadol.
Chwefror 8fed, 1866, cyflwynodd Cyfrinfa Odyddol, o Undeb Manceinion, Rhosllanerchrugog, dressing case hardd gwerth £10 i Miss Emily Price, o barch i'w thad. Cerfiwyd ar yr anrheg y geiriau canlynol i fod yn goffadwriaeth arosol o barch ac edmygedd brodyr Cyfrinfa Cadwgan i'w thad a hithau: "Presented to Miss Emily Price, Rose Cottage, Aberdare, by the Cadwgan Lodge, I.O.O., M.U., Rhosllanerchrugog, as a token of respect to her esteemed father, the Rev. T. Price, M.A., Ph.D., and G.M. of the Order, Feb. 8th, 1866." Nos Fawrth, Mawrth 13eg, 1866, yn Ystafell Cyfrinfa Lady Charlotte, Globe Inn, Merthyr, cyflwynodd brodyr Odyddawl Merthyr anerchiad, wedi ei argraffu yn hardd ar satin a'i osod mewn frame odidog iddo, yr hwn a gydnabyddwyd yn ddiolchgar mewn araeth benigamp gan y Dr. Wele eileb o'r anerchiad:—
Congratulatory Address presented to the Rev. Dr. Thomas Price, Grand Master of the Order, by the Merthyr District of the Independent Order of Oddfellows, Manchester Unity.
"Respected SIR,—The Members of this large and populous District hailed with a great deal of pride your accession to the Highest Seat which it is possible for any man to attain in our Society, namely,