Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion, Coedwigwyr, Alffrediaid, Undebau Cristionogol, a'r Iforiaid, wedi rhoddi i chwi fantais i ddangos eich caredigrwydd, eich ffyddlondeb, a'ch teimlad da dros lesiant cannoedd o filoedd o'ch cyd-ddynion; ac nid yw yr hyn a gyflawnwn i chwi yn awr ond arddangosiad bychan o'n parch tuag atoch.

"Wedi uno â'n Hurdd yn Nghyfrinfa Teml Ifor Hael, Adran Aberdar, Hirwaun, a Chwmnedd, bedair blynedd ar bymtheg yn ol, cawn eich bod yn cynnrychioli eich Adran yn y Gynnadledd Flynyddol a gynnaliwyd yn Aberdar yn 1857; ac o hyny hyd yn bresenol, yr ydym wedi mwynhau buddioldeb eich presenoldeb a'ch hyfforddiadau yn ein holl gynnadleddau blynyddol. I chwi y mae yr urdd yn ddyledus am y mesurau effeithiol er ail ffurfio Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn 1858, yr hwn, oddiar hyny, sydd wedi bod o wir wasanaeth i'r Urdd. Yn 1859, cawsoch yr anrhydedd o'ch ethol yn Llywydd yr Undeb, ac fel prawf o'ch gwir deilyngdod, yn y flwyddyn ganlynol, fe'ch ail etholwyd gyda'r parodrwydd mwyaf. Yn ystod eich llywyddiaeth, darfu i chwi fendithio yr Urdd â mawr wasanaeth yn nygiad oddiamgylch welliantau pwysig yn y Deddfau Cyffredinol, yn nghyd â chael yr Urdd wedi ei chofrestru dan weithred Seneddol, yr hon sydd wedi ei ffurfio er dyogelu cymdeithasau dyngarol yn Nghymru a Lloegr. Yr ydym yn teimlo llawer o bleser wrth nodi eich ymdrech diflino a'ch ymlyniad dibaid i ddarganfod ac adferyd Gwasgnodau, Llafnau Copr, a Llafnau Dur gwerthfawr yr Urdd. Yr ydym yn ddyledus i chwi am ail flurtiad a chyfieithad y Rheolau Cyffredinol, ac yr ydym dan rwymedigaeth neillduol i chwi am arolygu argraffiad ugain mil o'r cyfryw, y rhai sydd yn rhoddi y boddlonrwydd mwyaf i'r Bwrdd Llywyddol, ac er mantais yr Urdd yn gyffredinol.

"Mae yn gysur nid bychan i chwi wybod eich bod yn gwasanaethu cymdeithas sydd yn cynnyddu yn raddol, ond sicr, mewn nerth, pwysigrwydd, dylanwad, cyfoeth, a defnyddioldeb. Yn bresenol, y mae ein cymdeithas yn rhifo dim llai na phedair ar hugain o Adranoedd, yn cynnwys dau cant a dau ar bymtheg ar hugain o Gyfrinfa- oedd, y rhai, ar y laf o Ionawr, 1865, a rifent ddim llai na phymtheg mil, saith cant a saith deg a phump o aelodau. Yn ystod y flwyddyn 1864, talwyd i gleifion y swm o £10,681, ac ar farwolaethau y swm o £2,770; tra trwy eich ymdrechion chwi, mewn undeb ag ymdrechiadau aelodau da ereill, mae genym yn awr yn ein cyfrinfaoedd y swm o £61 800, tra mae Trysorfa yr Undeb yn cynnwys yn bresenol £1,000, ac yn arddangos cynnydd mawr.

"Syr a Brawd, yn herwydd y parch mawr a deimlwn tuag atoch, dymunwn am i chwi dderbyn, nid fel tâl am eich gwasanaeth anmhris-