Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iadwy, ond fel arddangosiad bychan o'n teimlad tuag atoch, y rhoddion canlynol, sef Oriawr Aur, yr hon gafodd ei gwneuthur er eich mwyn chwi yn unig; arwyddlun yr Urdd yn gerfiedig ar ei deial, gyda set o lestri tê arian, yn werth chwech ugain a deg gini.

Ein gwir ddymuniad ydyw ar i chwi gael einioes hir i fwynhau y rhoddion hyn a gyflwynwyd i chwi ar ran a thros eich brodyr, fel arwydd o'u cyfeillgarwch a'u gwir barch tuag atoch; a boed i'r Llywydd Mawr sydd yn llywodraethu dros bob peth ganiatau i chwi etto lawer o flynyddau o ddefnyddioldeb, fel ag y byddo i chwi fyned rhagoch, ochr yn ochr, yn rhes y dynion mawrion a theilwng, heb sefyll ond pan yn brwydro dros eich cyd—ddynion er eu llesiant. Ar ddiwedd eich gyrfa, hyderwn na fydd y rhodd hon, yr hon yr ydym yn gyflwyno i chwi, i fod er coffa am ein serch a'n hundeb, i gael ei hannghofio, a bod i'r anerchiad hwn fod yn etifeddiaeth i'r teulu; ac ar ol eich dydd, bydded i'r oriawr fod yn eiddo eich mwyn ragorol fab, Mr. Edward Gilbert Price, a'r Llestri yn gyfryw ag a fyddo yn addurno cartref dyfodol eich teilwng a'ch clodwiw ferch, Miss Emily Price; a boed y naill a'r llall o honynt fod yn deilwng i etifeddu yr etifeddiaeth fawr o barch a fydd eu tad yn sicr o roddi iddynt gyda y pethau hyn. Derbyniwch felly, Syr a Brawd, y gydnabyddiaeth ddidwyll yma o'n mawr serch a'n parch atoch. Maent yn rhoddion rhydd ewyllys miloedd o'ch cyd—ddynion, y rhai a weddiant ar y Duw Mawr i'ch bendithio â bywyd hir a defnyddiol, gyda chyflawnder bendithion nefol, ac yn y diwedd ogoniant tragwyddol mewn dedwyddwch diderfyn.

Arwyddwyd dros yr Urdd, gan

DAVID SIMS, Llywydd.
THOMAS WILLIAMS, IS-LYWYDD.
THOMAS DAVIES, TRYSORYDD.

"DAVID EDWARDS, WALTER LEYSHON, DANIEL LEWIS, EDWARD GRIFFITHS, LEWIS DAVIES, BENJAMIN ROSSER, DAVID GRIFFITHS,

Cyfarwyddwyr.

GRIFFITH JONES, Ysgrifenydd.

Yr oedd yr anerchiad wedi ei ystramio (framed) yn hardd a chadarn o ruddyn derwen—derwen a dyfodd yn ymyl cartref yr hen Ifor Hael—dangoseg teg o nerth a chadernid yr Urdd Iforaidd. Ysgrifenwyd hi gan Mr. Evan Jones, yn awr Swyddfa y Gwaith Nwy, Aberdar, yr hwn sydd yn un o'r ysgrifenwyr penaf yn y deyrnas. Wrth dderbyn yr anerchiad a'r anrhegion, diolchodd y Dr. mewn teimladau toddedig a dwysion am y serch a'r parch mawr a ddangosid