Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi ei gladdedigaeth, pasiwyd penderfyniadau parchus o gydymdeimlad â'i anwyl ferch, Miss Emily Price, ac â Sarah Price, hoffus chwaer y Dr. yr hon fu drwy y blynyddau yn cadw ei dy, ac yn gwneyd ei gartref yn gyssurus a dedwydd iddo. Yn mhlith penderfyniadau Cyfarfod Chwarterol yr Iforiaid, Adran Aberdar, Hirwaen, a Chwmnedd, am Llun, Mawrth y 5ed, 1888, cawn a ganlyn:—

12. Cynnygiwyd gan D. P. Davies, Ysw., Ynyslwyd, y penderfyniad canlynol fel arwydd o'n cydymdeimlad dyfnaf â Miss Emily Price, ar yr achlysur o golli ei hanwyl dad, Dr. Price:—'Fod y swyddogion a'r cynnrychiolwyr gwyddfodol yn dymuno gosod i lawr ar y cofnodion eu teimladau dwfn a'u gwerthfawrogiad o'r aml wasanaeth gwerthfawr mewn gwahanol foddau a wnaeth y Dr. Price i Gymdeithas Gyfeillgar y Gwir Iforiaid ac ereill yn y dosparth; ac yn dymuno ar i'r ysgrifenydd gario i'w deulu fynegiad o'u cydymdeimlad dwysaf â hwynt yn eu galar.

Etto, gyda'r Alffrediaid,

"Ar gynnygiad y Parch. B. Evans, Gadlys, Aberdar, pasiwyd mewn teimladau dwys, 'Ein bod, fel cyfarfod dosparthol, yn dymuno datgan ein cydymdeimlad â theulu parchus y diweddar frawd, yr hybarch Thomas Price, M.A, Ph D., yn eu galar a'u colled drwy ei farwolaeth sydyn ac i raddau annysgwyliadwy. Teimlwn, fel adran, yn hiraethus ar ei ol, ac yn neillduol felly pan gofiom cyhyd o amser y bu yn aelod o'n hurdd anrhydeddus, ac am y gwaith mawr a phwysig a wnaeth dros Alffrediaeth yn y dosparth hwn yn gystal ag yn yr Undeb yn gyffredinol. Cedwir ei enw mewn coffadwriaeth gariadus a diolchgar genym, a bydded i'w ferch a'i chwaer drallodus gael yn neillduol yn y cyfnod presenol bresenoldeb ac ymgeledd y Gwaredwr Dwyfol.

Gweler Hyspysiad Cyfarfod Chwarterol Alffrediaid Dosparth Merthyr am Ebrill yr 2il, 1888. Darllena yr 28ain benderfyniad o eiddo Cynnadledd Flynyddol yr Iforiaid, a gynnaliwyd yn Festri Hebron, Clydach, ger Abertawe, Gorphenaf y 3ydd, 1888, fel hyn:—

"Ein bod yn cydymdeimlo yn y modd mwyaf dwys â Miss Emily Price ar farwolaeth ei hanwyl dad, yr hwn a wasanaethodd yr Undeb am gynnifer o flynyddoedd gyda ffyddlondeb anmhrisiadwy. Mae yr ymwybyddiaeth o'r daioni mawr y mae y Dr. wedi ei gyflawnu o blaid Iforiaeth, yn nghyd â'i ymdrechion bythgofiadwy y tu hwn a'r tu draw