Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r Werydd yn ein cymhell i ddiolch o galon i'r Hwn a'i nerthodd am gynnifer o flynyddoedd."

Gweler Mynegiad y Gynnadledd am 1888.

Dengys y penderfyniadau uchod deimlad dwfn a hiraeth dwys yr undebau ar ol y Dr. parchus a wnaeth gymmaint drostynt yn ei fywyd, a gwasanaethant hefyd i brofi i dywysog mawr y cyfundebau dyngarol syrthio pan fu farw Thomas Price, Aberdar.