Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei anerchiad olaf i'w eglwys barchus fu dan ei ofal tyner am dros ddeugain o flynyddoedd, a chredwn mai cyhoeddi hwn ydoedd y gorchwyl diweddaf iddo yn ei berthynas â'r eglwys. Hefyd, y mae y Dr. wedi cyhoeddi amryw holwyddoregau, pamphledau, a phynciau ar destynau Ysgrythyrol a duwinyddol, megys y "Beibl," "Llwyddiant yr Efengyl," "Cyfiawnhad," &c., at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol.

Ysgrifenodd y Dr. lawer iawn o anerchiadau galluog ar gyfer Cyfarfodydd Gwanwynol ac Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon, megys "The Strict Baptists in Wales," "Annghydffurfiaeth ac Addysg Gyhoeddus yn Nghymru," "Hanes y Bedyddwyr" (yn L'erpwl, Hydref, 1866), "Hanes y Gymdeithas Genadol," "Y Genadaeth Dramor," "Y Gymdeithas Gyfieithadol," "Y Gymdeithas Grefyddol a Thraethodol," &c., &c. Ysgrifenodd hefyd erthyglau galluog ar brif bynciau y dydd perthynol i'n gwlad a'n cenedl, yn gystal ag ysgrifau achlysurol ar bynciau cyssylltiedig â gwledydd ereill, i'r papyrau a olygai efe. Pe cesglid at eu gilydd ei holl weithiau llenyddol, ei ysgrifau yn y gwahanol gyfnodolion misol a chwarterol, ei anerchiadau a i bamphledau cyhoeddedig, ei erthyglau i'r gwahanol newyddiaduron Cymreig a Seisnig, gwnelent gyfrolau mawrion a thra gwerthfawr; oblegyd yr oeddynt oll yn orlawn o fater sylweddol a gwybodaethau buddiol. Dechreuodd ei gyssylltiad â'r wasg fel golygydd yn y flwyddyn 1855; cyd—eisteddai yn y gadair olygyddol yr adeg hono â'r anfarwol Caledfryn, yn nghyd â'r galluog ddiweddar Hybarch John Davies, Aberaman, wedi hyny Caerdydd. Efe, yn ol fel y gallwn weled oddiwrth ei goflyfr perthynol i'r Gwron, oedd yn ysgrifenu dan y pennawd Crynodeb yr wythnos am flynyddau, a chymmerai olwg eang ar faterion yn gymdeithasol a gwleidyddol yn yr ysgrifau hyny. Heb fanylu yn y cyfeiriad hwn, oblegyd eangder aruthrol y maes, rhoddwn yma yn enghrefftiol hanes ysgrifau un flwyddyn, sef 1864, a ysgrifenodd yn gyssylltiedig âr Eglwys Sefydledig yn Seren Cymru yn unig. Y cyntaf a gawn yn y Seren am Ionawr iaf, 1864:"Yr Eglwys Wladol: Yr esgobion a'u cyflogau—Palasau yr esgobion—Yr archddiaconiaid a'u cyflogau—Cyflogau yr offeiriaid gweithgar—Cwyn y curad—Yr eglwysi cadeiriol a'u costau—Yr Ecclesiastical Commission a'i weithrediadau— Yr arwerthfa ysprydol, eneidiau dan y morthwyl—Y farch-