nad ysprydol—Y canonau—Ei meistr—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Casglu y briwfwyd—Cydraddoldeb crefyddol yn hanfodol i ryddid gwladol—Chwech ysgrif etto ar yr un pwnc—Y gyfraith—Y fam yn trin y plant—Y Parch. Sydney Smith â swyddogion yr eglwys—Tair ysgrif ar yr un pwnc—Yr offeiriaid mewn cadwynau—Y dull o drafod y cyfoeth—Pedair ysgrif ar yr un pwnc—Yr eglwys yn yspeilio y plant—Profiad Eglwyswyr—Adgyfnerthion yr eglwys Y Parch. J. Dudson, Ficer Cockerham—Aberth er mwyn y gwir—Ei nerth a'i gwendid—Barn y bobl am bethau—Dwy ysgrif ar yr un pwnc—Ffordd newydd i lanw yr eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Y dreth eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru." Dyna i ni ddigon o eglwys, ond wedi y cwbl gwasanaetha y penawdau hyn i ddangos y sylw mawr yr oedd Price yn ei dalu i'r Eglwys Sefydledig, a dangosant yn eithaf eglur ei allu digyffelyb i ysgrifenu yn gyson ar bynciau o'r fath, a pha mor frwdfrydig y teimlai dros Ymneillduaeth ac Anghydffurfiaeth. Nid ydym wrth hyn wedi dangos yr holl erthyglau a ysgrifenodd yn y flwyddyn dan sylw, ond yn unig y rhai a ysgrifenodd mewn ystyr ar yr un pwnc, ond yn ei wahanol arweddion. Meddylier am yr ysgrifau hyn, ac adgofier etto am ei ysgrifau a'i "Nodion Gwasgaredig" am y flwyddyn a nodasom yn flaenorol, yn yr hon bu yn America, y rhai gyda'u gilydd, fel y crybwyllasom, a wnaethant dros 70 o golofnau yn y Seren, a chawn feddylddrych egwan am waith llenyddol Price. Ysgrifenodd rywbeth yn debyg i hyn yn gysson o'r flwyddyn 1855 hyd y flwyddyn 1876—dros 20 mlynedd—pryd y rhoddodd i fyny olygiaeth Seren Cymru yn herwydd anmhariad ei iechyd.
Heblaw hyny, y mae wedi ysgrifenu yn helaeth a thalentog yn ei sylwadau yn mwrdd golygydd y gwahanol bapyrau y bu yn eu golygu. Y mae y wybodaeth eang a chyffredinol ar wahanol faterion, teuluol, cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol yno yn synfawr. Cynnorthwyodd filoedd o'i gydgenedl yn ei nodiadau golygyddol, a rhoddodd gannoedd o gynghorion a chyfarwyddiadau cyfreithiol ar faterion pwysig yn rhad, heb gymmaint a gofyn na dysgwyl y 6/8. Fel hyn gwelwn i'r Dr. ddal cyssylltiad agos iawn â'r wasg ac â llenyddiaeth bron drwy ei oes, a bu yn alluog i wneyd daioni mawr yn y cylch pwysig hwnw. Oddiwrth ei ledger, yr hwn sydd yn ein meddiant, gwelwn iddo fod yn ysgrifenydd arianol Seren Gomer o'r flwyddyn