Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1853 hyd ddiwedd y flwyddyn 1859, ac y mae gyda'i gyfrifon, fel pob peth arall, yn gryno, destlus, a chyfundrefnol. Bu flynyddau, fel y dywedasom o'r blaen, yn olygydd y Gwron a'r Gweithiwr, papyrau a gyhoeddid yn Aberdar. Cawn ef etto yr un mor gyfundrefnol yma. Cadwai lyfr mawr, yn yr hwn yr oedd yn cofrestru yr holl erthyglau a dderbyniai yn y drefn a ganlyn:—

Yr ydym yn rhoi enghreiff'tiau am dair blynedd, er dangos fod yr un drefn yn cael ei chario yn mlaen ganddo o hyd. Byddai yn ddyddorol ail-gyhoeddi llawer o'r ysgrifau ysgrifenwyd gan y Dr. i'r Gwron a'r Gweithiwr. Gwehr nad ydoedd y Dr. yn ysgrifenu ei enw yn llawn, eithr yn unig ei gyn-lytherenau (initials). Bu y Dr. yn troi llawer yn mhhth lluaws o ddysgedigion, a Uenorion o nod ac urddas, a phob amser cydnabyddid ef ganddynt fel un a safai yn uchel fel flenor gwych ac ysgrifenwr galluog ac addfed. Yn mhhth ereill, cydlafuriodd â'r enwogion a ganlyn:— Caledfryn, John Davies, Caerdydd; ei gydolygyddion Cynddelw, Eben Fardd, Brutus, Dr. Emlyn Jones, Ieuan Gwynedd, Athan Fardd, Lleurwg, Nefydd, Mathetes, Spinther, Dr. Jones, Llangollen ; Dr. B. Evans, Castellnedd; Dr. Rowlands, Llanelh ; Hugh Tegai, a llu ereill o gyffelyb urddas ac enwogrwydd, fuont yn cyd-lafurio ag ef gyda llwyddiant mawr yn a thros lenyddiaeth ein gwlad a'n cenedl.

Ni fu llafuriadau Price yn gyfyngedig i hyn etto; eithr rhagorai fel darhthiwr a phregethwr. Yn ystod y deugain