Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd diweddaf yr oedd y cythrawd darlithyddol wedi gafaelyd yn gryf yn meddwl y wlad, a bu darlithio yn boblogaidd am hir amser; ac yr oedd hyn yn fanteisiol iawn, gan fod amryw o brif ddynion y Dywysogaeth yn cymmeryd mantais o'r adeg i gyfranu llawer o wybodaeth fuddiol, ac i oleuo y werin ar bynciau buddiol a thra phwysig. Y mae gwahanol farnau wedi ac yn bod parthed darlithiau a darlithio. Teimla llawer yn groes a gwrthwynebol iddynt, tra y ceir ereill yn eu cefnogi yn y modd mwyaf selog. O ran ein hunain, yr ydym yn ffafriol i'r ddarlith ar bynciau teilwng a gweddus, am y rheswm y gellir dweyd llawer o wirioneddau oddiar y llwyfan nad ellir eu dweyd gydag anrhydedd o'r pwlpud. Tybia rhai mai ychydig o ddarlithwyr o fri a mawredd sydd wedi codi yn Nghymru erioed, er fod niferi y darlithwyr yn lleng. Addefwn yn rhwydd fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant yn ffurfafen y byd darlithyddol; etto, y mae llu mawr o ddarlithwyr enwog wedi bod yn mhlith a chyda y gwahanol gyfenwadau crefyddol yn Nghymru. Yn mhlith ereill, gallwn enwi Cynddelw, Dr. Emlyn Jones, Caledfryn, Hiraethog, Lleurwg, Kilsby Jones, Hwfa Mon, Matthews, Eweny; Myfyr Emlyn, a llu ereill o gyffelyb allu a dawn; a gellir bod yn sicr ddarfod i'r enwogion hyn wneyd lles dirfawr i'w cydwladwyr drwy eu darlithiau dyddorol a phoblogaidd. Gallwn, ni a gredwn, heb dynu dim oddiwrth anrhydedd y persouau parchus a enwasom, na chymmylu dim ar eu gogoniant fel arwyr dihafal y llwyfan, osod Price gyda'r uchaf a'r blaenaf o honynt fel darlithiwr; a gwn y byddai y rhan luosocaf o honynt yn barod i dynu eu hatiau yn foesgar iddo, gan ei gydnabod felly. Yr oedd y Dr. braidd yn enwocach fel darlithiwr na phregethwr, er cystal ydoedd yn y pwlpud. Dywedai Mr. Thomas Joseph wrthym unwaith ei fod ef yn credu fod y Dr. yn well darlithiwr o'r ddau na phregethwr, yn neillduol yn y blynyddau cynnarol o'i fywyd, er y teimlai fod y Dr. yn y blynyddau diweddaf yr oedd efe wedi ei glywed yn pregethu, wedi gwella llawer iawn—wedi dyfod yn fwy byw i'r teimlad, ac yn agosach at y dyn—y profiad, meddai, wedi addfedu, yr hyn sydd yn help mawr i bregethu yr Efengyl. Yr oedd hyn yn ffaith; wedi ei ddychweliad o'r Ysgotland ar ol ei gystudd maith pregethai gyda dylanwad neillduol. Yr oedd y bobl yn synu ato. Rhoddai y teimlad a'r yspryd crefyddol a feddiannai y Dr. yr adeg hono foddhad a ded-