Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyddwch mawr iddo. Wedi clywed fod y Dr. wedi dychwelyd ac yn alluog i bregethu, gofynodd y Parch. R. J. Jones, A.C., Trecynon, i J.H., un o aelodau Calfaria, a oedd hyny yn wirionedd. "Ydyw yn eithaf gwir," atebai J.H., "ac yr oedd yn pregethu yn well nag erioed." Yn mhen diwrnod neu ddau ar ol hyn, cwrddodd Mr. Jones â'r Dr. a'i ferch, Miss Emily, yn Mharc Cyhoeddus Aberdar. Yn falch i'w weled, llongyfarchodd ef ar ei adferiad i'w iechyd a'i ddychweliad gartref, ac ychwanegai, “Yr oedd J.H. yn dweyd wrthyf nos Lun eich bod yn pregethu y Sabboth diweddaf yn well nag erioed." Yn wir,' atebai y Dr., ac edrychodd yn siriol yn ngwyneb Emily, "I am so glad, I thought he was looking rather diflas; J.H. is a good judge of a sermon. Darlithiodd y Dr. lawer iawn, ac yr oedd yn meddiannu y cymhwysderau gofynol er bod yn ddarlithiwr cymmeradwy a phoblogaidd. Yr oedd yn ddynwaredwr (mimic) da iawn; ac yr oedd digon o fywyd a myn'd ynddo. Tynai ei arabedd a'i hyawdledd dyrfaoedd i'w wrandaw yn mhob lle yr elai iddo, a chadwai hwynt drwy ei ffraethineb a'i chwedlau dyfyrus yn fyw gan deimlad o'r dechreu i'r diwedd. Medrai ddarlunio gyda r perffeithrwydd mwyaf, ac yn gyffredin defnyddiai ddarlunlenau (maps) i egluro ei ddarlithiau. Meddai hefyd feddwl parod, ac yr oedd mor witty braidd a Gwyddel. Gallai wneyd a dweyd beth a fynai; ond cadwai yn gyffredin o fewn terfynau. Gellir dweyd, yn sicr, ei fod wedi cyrhaedd enwogrwydd mawr iawn. Nid yn fuan yr annghofia y wlad ei ddarlithiau penigamp ar Ryfel Rwsia yn 1854-Rhyfel y Crimea, Gwrthryfel India, Garibaldi, Y Beibl, John Bunyan, Muller o Fristau, Y Glowr, Tywysog Albert, Tywysog Cymru, ac America. Siaradai braidd yn ddiderfyn, a hyny gyda y dyddordeb mwyaf. Clywsom rai yn dweyd a u gwrandawsant droion pan yn ei ogoniant ei fod yn aml yn darlithio am ddwy awr a hanner, ac weithiau dair awr, yn gryf a diflino, ac ni flinai y bobl ychwaith. Gosodwn yma ddwy neu dair cynnwysdrem (syllabus), y rhai yn gyffredin a wasgerid cyn ei ddyfodiad yn yr ardaloedd y byddai yn darlithio ynddynt:—

GEORGE MULLER A'R AMDDIFAID.

Syllabus o'r Ddarlith.

"Cymmeriadau annghyffredin—George Muller yn un o'r cyfryw—Mae y rhai hyn yn gadael gwersi i ni—Dyddiau boreuol George Muller