ar y Dr. yn darlithio. "Trueni," dywedai, "fod y Dr. yn myned yn hen, bydd yn rhaid iddo ef farw rywbryd; ond byddai yn werth ei gadw, a rhoddi oes Methuselah iddo i ddarlithio, oblegyd y mae yn gwneyd hyny mor ardderchog."
Yr oedd yn myned dipyn yn arw weithiau wrth ddarlithio. Un tro darlithiai yn ei gapel ei hun yn Nghalfaria ar un o'r rhyfeloedd y cyfeiriasoni atynt. Crogai y darlunleni o amgylch y llwyfan, ac yr oedd gydag ef arfau rhyfel yn ei ymyl. Defnyddiai gleddyf pren, a gwnai dipyn o hono yma a thraw yn y ddarlith. Yr oedd y Parch. William Edwards, Heolyfelin, ar y llwyfan y noson hono, ac ysgydwai Price y cleddyf yn o drwsgl o amgylch ei ben, ac yn ofni y gwaethaf, dywedodd, "Peidiwch tori fy mhen, Mr. Price." Atebodd yntau, "Ond mae nhw yn tori penau yn y rhyfel," a chyda hyn tynodd y cleddyf heibio copa pen Mr. Edwards mor agos fel y credai y bobl ei fod yn myned i ffwrdd. Yn ei ddarlith ar America desgrifiai y boss (gaffer) yn ceisio dynion i weithio ar nos Sadwrn neillduol, a hyny mewn ardal y byddai llawer o'r preswylwyr yn cael y cryd, yr hyn a alwent yn "siglo;" ond ni wyddai y Dr. hyny ar y pryd. Yr oedd y bobl, mae yn debyg, yn gwybod yr adeg y buasent yn myned i'r cryd, oblegyd yr oedd yn dyfod drostynt yn gyfnodol. "John," meddai y boss (fel yr adroddai y Dr yn ei ddarlith), weithi di nos Sadwrn?"
Na," atebai John, "byddaf yn siglo." Wnei di, Dafydd?" "Na," meddai hwnw, "byddaf yn siglo;" ac felly ryw hanner dwsin arall, a'r ateb oedd gan bob un, meddai Price, "byddaf yn siglo," ac yr oeddwn yn methu dyfalu beth yn enw pobpeth a feddylient wrth siglo." Yn yr un ddarlith, dywedai, "Gwlad fawr yw America, mewn gair, y mae pob peth yn fawr yno. Mynyddoedd mawrion, llynoedd mawrion, afonydd mawrion, pobpeth yn fawr o'r mynydd mawr i'r jo dybacco yn mhen yr Ianci, yr hon sydd bob amser gymmaint a dwrn dyn." Dywedai hefyd am dani, "Gwlad eithafol iawn ydyw. Os twym, twym iawn; os oer, oer iawn. Dynion tew, tew iawn; dynion teneu, teneu iawn—bydd y cwn bob amser yn eu dylyn gan feddwl mai esgyrn fydd yn myned. Yr oedd y moch tewion mor dew nes y methent wybod lle yr oedd eu penau nes gwneyd iddynt rochian." Cyfranai lawer o addysg gyda dyfyrwch yn ei ddarlithiau. Arddangosai bob amser ynddynt ffrwyth ymchwiliad diflin a sylwadaeth fanol; ac er rhoddi enghraifft