Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'i boblogrwydd fel darlithiwr wedi ei ddychweliad o'r America, gosodwn yma lechres sydd yn dangos iddo ddarlithio ar America mewn gwahanol barthau o Gymru 36 o weithiau mewn llai na thri mis o amser. Wele hi:—

AMERICA.

Traddodir Darlithiau gan Dr. Price, Aberdar, yn y lleoedd canlynol, ar y dyddiau a nodir:—Liverpool, Ebrill 16; Llundain, o Ebrill 22 hyd Ebrill 29; Caerfyrddin, Mai 2; Ebenezer, Dyfed, Mai 3; Llandyssul, Mai 4; Aberteifi, Mai 5; Glynnedd, Mai 6; Bethesda, Abertawy, Mai 10; Clydach, Mai 11; Ystalyfera, Mai 12; Treorci, Mai 16; Nebo, Ystrad, Mai 17; Treherbert, Mai 18; Caerdydd, Mai 19; Tongwynlas, Mai 20; Nantyglo, Mai 23, Penycae, Mai 24; Tredegar, Mai 25; Rhymni, Mai 26; Pisga, Talywaen, Mai 28; Hengoed, Mai 30; Pontestyll, Mai 31; Llandilo, Mehefin 1; Saron, Llandybie, Mehefin 2; Bassaleg, Mehefin 7; Llaneurwg, Mehefin 8; Horeb, Blaenafon, Mehefin 9; Casnewydd, Mehefin 29; Ravenhill, Mehefin 13; Llwynhendy, Mehefin 14; Hwlffordd, Mehefin 15; Salem, Meidrim, Mehefin 16; Maesycwmwr (Seisnig), Mehefin 27; Caernarfon, Gorph. 5; Pontllyfni, Gorph. 6; Garn, Gorph. 7.

"THOMAS PRICE."

Fel darlithiwr yr oedd efe yn llawn o wahanfodaeth (individuality). Nid oedd yn debyg i neb ond iddo ei hun. Trwy ei ddarlithiau gwnaeth dros bedair mil o bunnau tuag at achosion gweinion ac er talu dyledion capeli yn mhob man.

Fel pregethwr, yr oedd Dr. Price, megys y dywedasom mewn pennod flaenorol, yn boblogaidd pan yn fyfyriwr yn Ngholeg Pontypwl, ac er ei fod, fel y dywedai Paul mewn achos arall, wedi "llafurio yn helaethach" nâ'r rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth mewn cylchoedd gwahanol, ac wedi cyflawnu gwaith sydd braidd yn annesgrifiadwy gan ei fawredd a'i amrywiaeth, etto, parhaodd yn dderbyniol a chymmeradwy fel pregethwr. Mae yn wir nad oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf nac ychwaith yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd; etto, gellir dweyd ei fod fel pregethwr yn wir fawr, yn lled boblogaidd, ac yn gymmeradwy dros ben. Yr oedd yn cael galwadau mynych i gyfarfodydd mawrion, a gwasanaethai yn aml yn mhrif wyliau yr enwad. Yn ei erthygl alluog yn Y Geninen dywed yr enwog Lleurwg, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, am dano fel hyn:—