Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Fel pregethwr, yr oedd yn eglur, syml, Efengylaidd, ac Ysgrythyrol. Bob amser cymmerai olwg eang, naturiol, a phriodol ar y pwnc yr ymdriniai ag ef, nes ei wneyd yn beth dealladwy, dyddorol, a buddiol, i'r gwrandawyr yn gyffredin. Nid ydoedd fel llawer yn gorlwytho ei bregeth â hanesynan (anecdotes) diddefnydd, ac, yn fynych, disail, fel ag i dagu cymmaint o Efengyl ag a allasai fod ynddi, a thramgwyddo pob gwrandawr o chwaeth a synwyr. Er ei fod yn bregethwr grymus a chadarn, yn athraw athrawiaethau mawrion a sylfaenol, ac yn ordinhadau y Grefydd Gristionogol, etto, yr oedd weithiau yn hoffi cymmeryd i fyny bynciau mwy dyeithr ac annghyffredin."

Dywedai gohebydd galluog yn y Merthyr Telegraph am Mai 31, 1878, am dano,

"Dr. Price's forte as a preacher lies in his treatment of the historic; he is great in Biblical narrative, and there is coherence, beauty, and logical precision in the most of his pulpit daguerrotypes. Several of the eminent Welsh preachers have excelled in the same direction; the Welsh appear to have special aptitude for the rhetorically pictorial."

Yr oedd, fel yr awgrymir uchod, ei brif nerth fel pregethwr yn yr hanesyddol. Adroddai hanesion Beiblaidd mor naturiol ac effeithiol nes y gwefreiddiai y gynnulleidfa fawr a ymdyrai i'w wrando, ac ymddangosai pawb fel pe yn ymgolli gan fedr a gallu desgrifiadol y pregethwr. Yr oedd yn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton ei oes. Pregethai yn aml iawn ar destynau yn yr Hen Destament, ond fynychaf rhedai ar y llinell hanesyddol. Byddai yn hoff iawn o bregethu ar gymmeriadau, a thynai i fyny wersi buddiol a phwysig hyd y nod o'r manau a'r amgylchiadau mwyaf annhebyg. Wrth edrych dros ei ddyddiaduron, yn y rhai y croniclai ei holl destynau, yn nghyd â'r dyddiadau y pregethai hwynt yn mhob man, cawn yn y llyfr cyntaf, yr hwn sydd yn cyrhaedd y tu ol i'r flwyddyn 1858, nifer lluosog o bynciau, fel y canlyn :—Abraham, Jacob, Enoch, Moses, Melchisedec, Senacherib a Hezeciah, Joseph, Daniel, Dafydd, Elias yn Horeb, Mordecai, Esther, Jonah, Abiah Bach, Haaman, Nehemiah, Sorobabel, y Tri Llanc, a'r Llances Fach," &c. Nid ydym wedi codi ond nifer fechan o honynt cofier. Gyda chymmeryd cymmeriadau Ysgrythyrol i fyny yn ei bregethau, pregethodd ar ddefodau a seremonïau Iuddewig, yn nghyd â'r hen gyfundrefn yn ei gwahanol agweddau, yn dra chyflawn. Hoffai ddar-