Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lunio y Tabernacl, ei lestri, a'r defodau cyssylltiedig ag ef. Pregethodd lawer o bryd i'w gilydd ar y Deml, ei hoffeiriaid, ei harchoffeiriaid, a'r gwahanol ddodrefn a'r gwasanaeth gyflawnid ynddi. Yr oedd yn lled hyddysg yn hanesiaeth henafol yr Iuddewon. Yr un modd gyda'r Testament Newydd; ymhyfrydai fod gyda'r hanesyddol. Teimlai yn ddedwydd yn Llyfr yr Actau yn darlunio yr apostolion a'u teithiau, ac hoffai feusydd hanesyddol a phroffwydoliaethol yr Hen Destament; dammegion Crist a'i wyrthiau, hefyd, oeddynt feusydd y treuliai lawer o'i amser ynddynt. Codai o honynt egwyddorion mawrion a thragwyddol teyrnas Crist i'w dangos yn eglur a syml i'w wrandawyr. Byddai y gwersi a dynai oddiwrthynt yn naturiol a phrydferth, a gwasgai hwynt yn ddifrifol at galonau a chydwybodau y bobl. Cymmerai yn aml wahanol ranau o'r gwirionedd, rhyw wedd neillduol arnynt, a chyhoeddai gyfres yn olynol o bregethau galluog a dyddorol ar y cyfryw adranau, a theimlai y gwrandawyr ddyddordeb mawr ynddynt. Nodwn er enghraifft ei bregethau ar y saith eglwys yn Asia, y rhai a elwir gan bobl Aberdar hyd heddyw yn bregethau y Dadguddiad." Darluniai yr eglwysi hyn yn eu gwahanol gyflyrau ac arweddion yn y modd mwyaf byw i'r bobl. "Y Beibl" ydoedd bwnc arall, ar yr hwn y pregethodd ddeg o bregethau hanesyddol a gwir alluog i bobl ieuainc ei gynnulleidfa. Cyhoeddai ei bynciau a'i destynau yn mlaen llaw, a dirgymhellai ei wrandawyr, yn neillduol y dosparth ieuengaf o'i gynnulleidfa, i ddarllen y testynau a chymmaint ag a allent arnynt, gan y teimai fod cael y bobl i efrydu y pynciau cyn ei fod yn pregethu arnynt yn fanteisiol iddo ef a hwythau. Gosodwn yma enghraifft o'r man-leni (slips) a wasgarai i'r bobl pan yn myned i bregethu cyfres o bregethau ar ryw bwnc neillduol. O blith ereill, gosodwn y Beibl yn enghrefftiol, yr hwn sydd fel y canlyn:—

‘Y BEIBL.'

"Er mwyn ieuenctyd cynnulleidfa Calfaria, Aberdar, bwriada Dr. Price draddodi cyfres o bregethau ar y Beibl fel dadguddiad Duw o'i ewyllys i ddynion; unig reol bywyd yn y byd presenol; a'r unig hyfforddwr am ein dedwyddwch yn y byd a ddaw.

"Traddodir y pregethau hyn ar nos Suliau, yn Nghapel Calfaria, gan ddechreu nos Sul, Tachwedd y 27ain, 1870; ac hyd y gellir bob nos Sul yn olynol hyd ddiwedd y gyfres.