Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BYWGRAFFIAD

Y

PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D.



PENNOD I.

EI HANES BOREUOL.

Ei enedigaeth Lle ei enedigaeth—Ei rieni—Ei linach—Ymweliad ag ardal ei enedigaeth Dylanwad golygfeydd, &c., ar gymmeriad Barn Cynddelw—Enghreifftiau: Burns, Coleridge, &c. Dechreu ei fywyd cyhoeddus—Y Cliftons—Ysgol Sabbothol Pontestyll—Ysgol Sabbothol y Cliftons—Teithio gyda'r teulu Y Cyfandir—Rhufain—Glanau y môr—Marwolaeth ei feistr—Ymadael i Aberhonddu—Ymbrentisio—Ymroddgar i ddysgu—Ennill parch—Ymweled a'r teulu megys mab.

GANWYD y diweddar Hybarch Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdar, mewn lle or enw Maesycwper, yn agos i bentref bychan Ysgethrog yn Mhlwyf Llanamlwch, neu, fel y gelwir ef gan rai, Llanammwlch, yr hwn sydd yn gorwedd yn nyffryn prydferth a ffrwythlon yr Wysg tua thair milldir islaw Tref Aberhonddu, ar yr 17eg o Ebrill, yn y flwyddyn 1820. Ei rieni oeddynt John a Mary Price (Prys). Ganwyd iddynt chwech o blant, sef John, Thomas, Ann, Alice, Mary, a Sarah. Thomas a Sarah oeddynt y ddau ieuangaf. Ganwyd John, ei dad, yn Mherthybala, yn ymyl Tref Aberhonddu. Nid oedd ei rieni ond pobl gyffredin yn eu hamgylchiadau, ond yn ddiwyd a gonest. Nid oedd dim yn wahanol ynddynt i'r lluaws tadau a mamau oeddynt, fel hwythau, yn ymdrechu dwyn eu teuluoedd i fyny goreu y medrent yn ngwyneb llawer o anfanteision; ac oni fuasai eu cyssylltiad â'u mab, nid yw yn debyg y buasai neb yn gwybod eu henwau y tu allan i gylch cyfyng eu cymmydogaeth. Y mae yn ffaith nodedig fod y nifer lluosocaf o'r dynion mwyaf galluog ac enwog