Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn gwahanol foddau wedi codi or lleoedd annhebycaf, ac yn fynych o'r teuluoedd mwyaf dinod. Gweithiai John Price fel llafurwr, a bu am un-ar-bymtheg-a-deugain o flynyddoedd yn ngwasanaeth y Williamsiaid or Manest Court. Cafodd ei wneyd yn farm bailiff iddynt, ac mewn oedran teg bu farw yn eu gwasanaeth yn wir barchus fel gwas diwyd a gonest.

Eglwyswyr oeddynt rieni Thomas Price. Nid oedd yr adeg hono un capel, nac ysgoldy, nac ysgol ddyddiol, ynperthyn i'r Annghydffurfwyr yn y plwyf. Felly, yn ystod blynyddau boreuol Price, yn neillduol yn ei ardal enedigol ef, yr oedd manteision addysg yn isel a phrin, er y dywedir iddo gael ychydig addysg elfenol gan hen wreigen a gadwai ysgol ddyddiol yn Mhentref Pengelli. Yn ddiweddar ymwelodd yr ysgrifenydd ag ardal enedigol y Dr., a chafodd hyd i hen foneddiges barchus or enw Elizabeth Davies, Villia, yn Mhentref Llanamlwch, yr hon oedd dros 78 mlwydd oed, wedi byw yn y pentref hwn dros 65 mlynedd, ac felly, adwaenwn (meddai hi) yn dda rieni Thomas Price, pan oeddynt yn ddynion ieuainc. Pobl barchus iawn oedd John a Mary. Yr oeddynt yn Eglwyswyr selog, a gweithiasant yn ddiwyd i godi eu teulu. Buont yn byw yn Mhentref Llechfaen, ac yn hir iawn yn y Cwrt. Cyfeiriodd yr ysgrifenydd at y Cwrt, yr hwn oedd ychydig y tu hwnt i Bentref Llanamlwch, ar Ffordd y Fenni. Nid oedd i'w weled ond olion dau hen dy bychan mewn culffordd oedd yn arwain dros y bryniau i Dalyllyn, â'r gerddi y tu cefn yn ffinio â chae y Manest Farm, yr hwn a ddelir yn bresenol gan Mr. David Jones, New Inn.

Teimlasom ddyddordeb mawr pan yn edrych ar yr hen adfeilion, wrth feddwl am yr enaid mawr a'r yspryd byw, nerthol, a rhagorol fu yn preswylio yn y lle dinod hwnw; ac er nad oedd yr ysmotyn yn cael sylw y cymmydogion ar gyfrif eu dyeithrwch i'r Doctor enwog gafodd ei godi yno, teimlwn fod argraff annileadwy wedi ei gwneyd ar ein meddwl, ac y mae y lle a'r gymmydogaeth wedi dyfod yn gyssegredig i'n teimlad ac yn anwyl gan ein calon. Credai Mrs. Davies fod Tom Price, fel y galwai hi ef (ac am hyn gwnaeth ymddiheuriad), wedi bod pan yn ieuanc iawn dan ofal un athraw o'r enw Davies, yr hwn a gadwai ysgol mewn hen ysgubor yn y pentref, ac a oedd hefyd yn dollydd (exciseman) ac yn ysgolhaig gwych. Yr oedd y tollydd,