Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVIII.

EI FFRAETHEIRIAU.

Naturiol ffraeth—Myned yn mhell, etto o fewn terfynau—Myfyr Emlyn ar ei ffraethineb—Gwaith angylion—Myfyr etto—Pregeth y Corn Bach—Levi Thomas—T. ab Ieuan—Rustic Sports yr Ynys—Y Dr. a Spurgeon.

YR oedd y Dr. yn naturiol ffraeth (witty), ac yn llawn o'r doniol a'r digrifol; etto, cadwai yn lew iawn y tu fewn i derfynau gweddeidd—dra a moesgarwch. Yr oedd yn cymmeryd, ac mewn gwirionedd yn cael, mwy o ryddid i ddweyd yr hyn a fynai na neb ag a adnabuom erioed. Byddai ei ffraetheiriau a'i chwedlau yn myned yn mhell weithiau, ond ymesgusodid trwy ddywedyd, "Dr. Price yw ef—y mae fel efe ei hunan." Yr oedd llawer iawn o'i wits, fel y byddant yn gyffredin, yn ymddybynu ar amgylchiadau, atebent yn eu lle yn dda; ond wrth eu hailadrodd collant lawer o'u gogoniant. Y mae Myfyr Emlyn yn ddarluniadol a chywir o hono yn ei ysgrif y cyfeiriasom ati droion yn flaenorol ar y mater hwn; ac er ein bod wedi cylymu traed yr un ergydion yn ein braslinellau o'r bennod hon, etto teimlwn nas gallwn wneyd yn well na gadael i Myfyr eu hadrodd yma. Dywed:—

"Yr oedd y Dr. yn hynod o ffraeth, ac yr oedd ei ffraethineb yn aml iddo yn brofedigaeth, a chariai ef weithiau i arddull a ystyrid gan rai yn amheus. Ond cymmaint oedd ei ysprydiaeth, ei naturioldeb a'i ddifrifoledd, fel y medrai ddweyd a gwneyd gyda boddhad i gynnulleidfa, yr hyn a gyfrifid mewn ereill yn annyoddefol. Pan yn gadeirydd i Mr————[1] a areithiai mewn cyssylltiad â Chymdeithas Heddwch, yn amser Rhyfel Rwsia, clywais iddo ddweyd ar y diwedd, 'Er fy mod gymmaint dros heddwch a neb, etto, pe cawn fy nymuniad, rhoddwn gasgen o bylor dan Nicholas, a chwythwn ef i ddiawl.' Paid gwrido, ddarllenydd hoff, pe clywet Price yn dweyd hyn buaset yn chwerthin

  1. Caledfryn ydoedd hwnw. Yn nghapel y Methodistiaid, Aberdar, y traddodid y ddarlith. ac ofnai y rhai mwyaf sanctaidd o'r Corff yr halogai y Dr. eu teml.