yn iachus, pa un a fuaset yn cyduno â'r syniadau ai peidio. Clywais ef yn dweyd wrth gynnulleidfa o Saeson yn Llundain un tro, 'Yr ydych chwi, y Saeson, yn barod i feddwl pob drwg am danom ni y Cymry. Dywedwch fod Sir Fynwy yn perthyn i Loegr, ond pan y crogir rhywun yno, yna dywedwch ei bod yn Nghymru; ond cofiwch, pan y crogir rhywun yn Sir Fynwy, Sais ydyw.' Gwyr y darllenydd fod yr Ianciod yn dra anarddangosiadol a digyffro eu hagwedd pan yn gwrando pregeth neu ddarlith, fel mai anhawdd i ddyn dyeithr yw gwybod pa le y saif mewn cyssylltiad â hwy. Yr oedd Dr. Price yn pregethu un tro i gynnulleidfa yn America ar Weledigaeth yr esgyrn sychion,' ac wrth ddarlunio eu sychder a'u marwoldeb, dywedodd yn sydyn, 'Yr oedd. ynt mor sych a marw a chynnulleidfa Ianciaidd.' Yn awr, beiddiaf ddweyd mai un o gant o Gymru neu Loegr a ddywedai hyn heb i'r gynnulleidfa hono osod y diffoddydd arno, a thaflu arno y diystyrwch mwyaf; ond fel arall yn hollol y bu—y gynnulleidfa a orchfygwyd yn llwyr, a daeth yn gyffelyb i un Gymreig, mewn hwyl, neu i'r esgyrn sychion ar ol taflu iddynt anadl bywyd ; a chofir gydag edmygedd a brwdaniaeth am y dyn bach cadarn, ffraeth, a dwys—eneidiol o Gymru hyd y dydd heddyw. Cangen o'i eglwys ydyw Gwawr, Aberaman, a phan oedd y gangen yn ieuanc, trodd y gweinidog ac amryw o'r aelodau at y Mormoniaid, a cheisient feddiannu y capel: cadwent gyfarfodydd a'r drysau yn nghlo, ac ofnid y gorchfygent. Ond ar un o'r adegau hyn aeth ein gwron, gydag ychydig gyfeillion, a thorodd i fewn trwy y ffenestr; ac fel cadfridog dewr, efe oedd arweinydd y gad. Ymarferodd dipyn o Gristionogaeth ewynol trwy ymaflyd yn y gweinidog gwrthgiliedig, gan ei fwrw allan yn gorfforol o'r synagog; ac ni fwriwyd allan gythraul erioed yn fwy llwyr ac effeithiol, a chafodd efe a'i ganlynwyr gymmaint o fraw, fel na bu arnynt chwant byth mwy yspeilio eiddo arall."'—Gweler Y Geninen Gorphenaf, 1888, tud. 177.
Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn eglwys unwaith oedd dipyn yn drymaidd ei hyspryd ac yn gwrandaw yn bur sych arno. Desgrifiai waith yr angylion. Dywedai,
"Mae y nefoedd yn drefnus gyda phob peth, ac mae gan bob angel ei waith, a gallaf eich sicrhau fod pob un o honynt yn meindio ei fusnes. Y mae rhai o honynt yn cario newyddion o'r ddaear, ac yn adrodd sut y mae pethau yn myned yn mlaen yma. Nid yw ereill o honynt yn gwneyd dim ond costrelu y dagrau mae saint Duw yn eu colli yn myd y cystudd mawr. Mae un arall yn cofrestru amenau y plant; ond Duw sy'n gwybod! gall sychu ei ysgrifbin o ran dim gwaith mae yn gael gan yr eglwys hon, ac yr wyf yn ofni y gall roi i fyny ei waith yn eithaf rhwydd o ran a gaiff y dyddiau hyn o Gymru."