Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hadwaenent ef, yr oedd wedi ei freintio à chorporation pur lew, a'i ddonio à llais nodedig o nerthol. Achwynai Levi dipyn ar y dechreu ei fod yn anhwylus yn herwydd afiechyd, a dymunai am gydymdeimlad y gynnulleidfa; ond cyn terfynu, yr oedd y pregethwr wedi annghofio ei anhwylder, ac wedi myned i waeddu yn annghyffredin, fel y gallai efe. Wedi iddo orphen, cododd Price, a dywedodd yn ei ffordd ddigrif, "Diolch i Dduw fod Levi Thomas yn dost: pe byddai yn iach, clywid ef yn Abertawy!"

Pan oedd y Parch. T. James (T. ab Ieuan), Glynnedd, yn olygydd Dyddiadur y Bedyddwyr, aeth rhyw siarad rhwng rhai o'r brodyr yn nghylch amser a'r gwahaniaeth yn hyd y misoedd. Dywedodd y Dr. yn sydyn, "Yr wyf yn deall y misoedd pedair i gyd yn rhwydd, ond yr wyf yn gadael y misoedd pump i gyd i'r brawd o Glynnedd." Cogleisiodd yr atebiad deimlad T. ab Ieuan, a chafodd ei foddhau yn chwerthiniad calonog y brodyr, oblegyd yr oedd yn falch o gael compliment yn nghylch ei waith a'i gyssylltiad â'r dyddiadur.

Ychydig flynyddau yn ol, cynnaliwyd Cymmanfa Gerddorol Ynyslwyd, ar y Llungwyn. Y flwyddyn hono, David Hughes, un o ddiaconiaid y Dr., oedd y cadeirydd. Y diwrnod hwnw hefyd, yr oedd Rustic Sports yn cael eu cynnal ar Gae yr Ynys, yr ochr arall i'r afon o Gapel yr Ynyslwyd; ond gellid clywed swn eu rhialtwch pan floeddient yn gymmeradwyol am ryw orchest-gampau. Triniai y cadeirydd y sports, y chwareuwyr, a'r rhedegwyr, &c., a'i meistr yn arw iawn, pryd y gwaeddodd Price o'r sedd fawr odditano, Eithaf right, Dafydd Hughes; rhowch hi iddo, oblegyd hen dd--l yw e' o hyd." Rhoddodd hyn fwy o nerth yn mraich Hughes i fflangellu hen "chap," ys dywed Harris o Heolyfelin.

Un tro, yr oedd y Dr. yn darllen papyr, yr hwn a gynnwysai lawer iawn o ffigyrau, yn Nghyfarfodydd Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, a gynnelid y flwyddyn hono yn L'erpwl. Yn nghanol ei araeth, pan yn tynu y tŷ lawr bron, ac wedi gyru y gynnulleidfa braidd yn fflam, gwelodd y Dr. Mr. Spurgeon yn dyfod i fewn, a dywedodd, yn ol ei arabedd arferol, yn y modd mwyaf tarawiadol, Rhaid i'r sér fyned o'r golwg pan mae yr haul yn gwneyd ei ymddangosiad;" a gwaeddodd Spurgeon mewn atebiad, "Go on, brother Price; go on, brother Price." "All