Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

right," meddai Price; "I shall not be long," ac yn mlaen â'i ffigyrau yr aeth nes oedd y gynnulleidfa fawr mewn hwyl ac yn synu a rhyfeddu at ei allu digyffelyb. Gellid ychwanegu nifer lluosog o bethau tebyg am ein gwrthddrych; ond credwn y gwasanaetha yr uchod i daflu golwg arno yn yr ystyr a nodwn. Felly, symmudwn yn mhellach yn mlaen, a chyn cael yr olwg ddiweddaf arno, gwahoddwn amryw frodyr a'i hadwaenent ef yn dda i wneyd ychydig nodiadau ar y Dr., a dyna fydd ein pennod nesaf.