Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

limping out. After he had closed the door, the Dr. rose to his feet and said to those at the meeting, 'There, now, the devil is gone: you will have peace,' and he went back to his own people at Calvaria."


GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, RHOS, MOUNTIAN ASH.

"Yn yr Haf, 1845, y cwrddais â'r enwog Ddr. Price gyntaf erioed. Yr oedd yn pregethu a chasglu yn Llysfaen ar noswaith tuag at Athrofa Pontypwl, lle yr oedd yn fyfyriwr ar yr adeg hono. Brawd ieuanc gwyneb agored, gwresog ei galon, serchog a hawddgar ei gyfeillach, y cefais ef, ac felly y parhaodd i mi hyd derfyn ei oes. Cyfarfuom ar ol hyny mewn cyrddau a chymmanfaoedd lawer tro ar hyd y blynyddoedd wedi ei urddo ef yn weinidog yn Aberdar yn nechreu 1846.

"Nid hir y bu cyn dyfod yn boblogaidd gartref ac oddicartref fel pregethwr, cynnadleddwr, a gwleidyddwr. Rhedodd ei glod fel mellten drwy yr holl eglwysi a'r wlad. Edmygid ef yn fawr fel pregethwr eglur, hawdd i bawb ei ddeall, gwresog iawn ei yspryd, ac ymarferol nodedig ei syniadau. Yr oedd ar ei ben ei hun, a byddai dysgwyliad am dano yn nghyrddau mawrion y sir, ac yr oedd yn ffyddlon iawn i gyrchu iddynt. Yr oedd yn gynnadleddwr medrus a deheuig, yn meddu gwybodaeth a deall clir o'r materion a drinid. Yr oedd fel gwr gartref yn y gynnadledd am beri ac i gwmpasu gwaith. Rhaid cydnabod ei fod yn feistrolgar yma fel rheol, ond byddai gwres ei yspryd weithiau yn ei gario yn rhy bell, res bod yn ormod o feistr a tharo lle yr oedd eisieu olew. Pwy nad yw yn agored i roddi ergydion camsyniol? Cynlluniwr hynod o fedrus ydoedd mewn llawer o amgylchiadau, fel y mae olion ei law yn aros i brofi hyny.

"Yr oedd yn wleidyddwr o ran medr a gwroldeb penderfynol, Y swn cyntaf a glywais am dano braidd wedi iddo gael ei urddo yn Aberdar, ydoedd ei ornest â'r offeiriad yn y lle o herwydd celwyddau y Llyfrau Gleision, yn iselu cymmeriad gweithwyr a menywod yr ardal. Gwnaeth yr ymgiprys hwnw, trwy wroldeb hyfaidd a medrusrwydd Dr. Price, les dirfawr i ddofi tafodau ensyniadol yr Eglwyswyr hunandybus, a deffroi y wlad i droi anwireddau melldigedig Toriaid beilchion yn ol mewn hunan-amddiffyniad croew, clir, a gonest. Amser hynod ydoedd hwnw am dduo yr Ymneillduwyr Cymreig yn ngolwg yr yspïwyr Seisnig rhagfarnllyd gan haid o offeiriaid diffydd, rhagrithiol, a'u cwsmeriaid cynffonol. Er hyny, cododd Rhagluniaeth Ddwyfol ddynion enwog hynod i gyfarfod â'r adeg hynod hono, yn mhersonau Dr. Price a Ieuan Gwynedd, a gwyr dewrion a gonest ereill, fel amddiffynwyr yr Ymneillduwyr a'r werin Gymreig, yn ngwyneb ffrydiau o gyhuddiadau maleisus