Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a bradychus can dywylled â'r dyfroedd a lifant allan o weithfaoedd y Stroud. Yr oedd Dr. Price yn ddarn o fur cadarn fel amddiffynwr ei wlad yn ei chymmeriad ac yn ei hiawnderau. Saif ei enw yn uchel am oesau ar groniclau Cymru fel un o'i hamddiffynwyr dewraf yn ei ddydd. "Yr oedd y Dr. hefyd yn wr o wybodaeth gyffredinol helaeth iawn, a deallai gryn swm o gyfraith y wlad. Bu fel cyfarwyddwr a chynghor. wr i luaws mawr ar lawer amgylchiad go ddyrus.

"Yr oedd yn neillduol o fedrus i fywiogi, trefnu, a hyfforddi'r Ysgol Sabbothol, a'i pherffeithio mewn gwybodaeth a threfn. Ei ddyfais ef ydoedd cael holl Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Dyffryn Aberdar—o Hirwaun i lawr i Mountain Ash—i gyfarfod ar ddydd Nadolig yn un o'r capeli ar yn ail mewn eisteddfod. Byddai gwaith i gyfansoddwyr, cantorion, ac adroddwyr. Bu yr un gyntaf yn Hirwaun, Nadolig, 1856. Parhaodd y sefydliad hwn am flynyddoedd ac er lles. Yr oedd hefyd yn hynod am ei yni a'i weithgarwch i sefydlu ysgolion ac eglwysi yn ardal Aberdar, ac hefyd i fagu a chodi pregethwyr, y rhai a ddaethant gan mwyaf yn weinidogion defnyddiol enwog.

Yr oedd Dr. Price yn athronydd go dda: gwelai drwy fater dyrus yn lled glir ar unwaith, a medrai ei ddadansoddi mewn byr eiriau i eglurdeb digamsynied y rhan fynychaf.

"Yr oedd hefyd yn wr mawr am garedigrwydd ac yspryd tadol. Yr oedd yn gymmwynaswr parodlaw iawn gyda'r pleser mwyaf. Bu yn gweini yn ffyddlon iawn i'w gangen—eglwys wan yn Mountain Ash, am tua deg mlynedd wedi ei sefydlu yn Aberdar. Cyrchai yn fisol i dori bara, ac i'w chyfarfodydd, a bu o ddefnydd a llwyddiant yno i luosogi a chadarnhau yr eglwys yn y ffydd. Yn Ionawr, 1855, ysgrifenodd alwad caredig eithaf, dros y gangen hono, i mi ddyfod yn weinidog iddi. Rhoddai y cymhelliad taeraf a'r annogaeth gryfaf a mwyaf brawdol i mi ddyfod. Ar ei gais taer ef a'r eglwys yma y derbyniais yr alwad, ac ni chefais achos i edifarhau. Cefais ef yn gymmydog anwyl, ffyddlon, a diddichell, ac ymddygodd ataf yn frawdol a thadol iawn hyd ddiwedd ei oes. Credaf iddo fyned i dangnefedd; hiraethaf ar ei ol."


BY THE REV. J. GEORGE, UNITARIAN MINISTER, ABERDARE.

"By a terrible calamity, a heavy cloud was thrown over the County of Glamorgan, in November, 1867. Scores of human lives were lost and hundreds of women and children were deprived of their breadwinners by the disastrous explosion at Ferndale Colliery. The heart of the community was moved with horror and stirred with pity. Public meetings were held and a relief fund was established. To distribute