Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hen gapel, ac yn adgofio llithrigrwydd ei barabl, naturioldeb ei eglurebau, nwyfusrwydd ei ddesgrifiadaeth, gogleisrwydd ei ffraethineb, a'i ddylanwad gwefreiddiol ar y gynnulleidfa. Cofiwn iddo ddywedyd yn nghwrs ei bregeth fod ganddo olwg fawr ar wragedd gweddwon, iddo briodi gwidw, ac os byth y priodai drachefn, mai gwidw a fynai eilwaith; a pharodd y sylw i'r bobl wenu yn siriol.

"Dro arall gwasanaethai y Dr. yn nghyfarfod blynyddol Capel Hall Lane, ar y Sabbath, ac ar brydnawn y dydd canlynol cynnaliwyd gwyl dê yn festri Capel Birrell, Pembroke Place, yr hon a fenthyciasid i'r frawdoliaeth yn Hall Lane ar yr achlysur a nodir. Yn gymmaint a bod y plant yn lled aflonydd, ceisiodd y gweinidog ieuanc, y Parch. David Howells, i mi fyned gyda hwynt i un o anti-rooms y festri i'w cadw yn dawel. Gwnaethum fel y ceisiodd, ac ymaith a ni i un o'r ystafelloedd; ac wedi cau y drws, dechreuais eu holi parthed pwy a sylfaenodd yr Ysgol Sabbothol yn Lloegr ac yn Nghymru. Pan yn yr act o hyspysu y plant mai Charles o'r Bala a'i sylfaenodd yn Nghymru, cafodd drws yr ystafell ei agoryd yn sydyn gan y Dr., a chan edrych yn gynhyrfus gwaeddodd yn hyglyw, 'Taw a dy gelwydd, y d—-l bach!' ac yn mlaen ag ef, gan hyspysu y plant fy mod yn cyfeiliorni yn enbyd, ac mai Bedyddiwr o'r enw Morgan John Rhys, o Hengoed, oedd sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, ac nid Charles o'r Bala. Hawddach ydyw i ddarllenwyr yr adgofion hyn ddychymygu fy nheimladau nag i mi allu eu desgrifio. Caraswn allu ffoi o wydd fy ngheryddwr llym. Un noswaith, dygwyddodd y Dr. fod yn bresenol yn festri Capel Great Cross ar adeg cyfarfod, a chofiaf yn dda i amgylchiad neillduol gymmeryd lle, yr hwn a achosodd i mi ac ereill lygadrythu yn siomedig. Wedi gorphen y gwasanaeth, aeth y Dr. yn mlaen at foneddiges a adwaenai yn dda, ac yn ngwydd pawb rhoddodd iddi gusan serchus a chalonog oedd yn swnio dros y lle.

"Yn y flwyddyn 1866, cynnaliwyd cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon yn Llynlleifiad, yn nghapel yr anfarwol Hugh Stowell Brown. Er fod y capel yn un eang, yr oedd yn rhy fychan ar yr achlysur y soniwn am dano i gynnwys y bobl a ddaethant yn nghyd, ac felly, cynnaliwyd overflow meeting yn y Philharmonic Hall, yr ochr arall i'r heol, i'r hwn yr aeth C. H. Spurgeon, ac ereill, i anerch y gynnulleidfa; ond yr oedd yn ddealledig fod Mr. Spurgeon i anerch y bobl yn Nghapel Brown cyn fod y cyfarfod yn dybenu. Credwn nas annghofiwn byth hyawdledd annghyffredin a thanbaid y Dr. ar yr achlysur hwn. Ei bwnc oedd cynnydd enwad y Bedyddwyr o ddechreu y ganrif hyd at y flwyddyn hono. Ein hargraff ar y pryd ydoedd fod dawn ac hyawdledd Dr. Price wedi hyd y nod llwyr lyncu yr adgof fod y bydenwog Spurgeon i anerch y cyfarfod. Ni chlywsom