Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Banau (mynyddau uchaf y Dehau), y rhai a ymylant y dyffryn hwn, yn arddangosiad o amrywiaeth cynnyrchion doniau ein pregethwr, ein dysgawdwr, ein darlithiwr, ein hawdwr, a'n golygydd diguro, y Parch. Thomas Price. Dechreuodd ei "fywyd cyhoeddus," fel y galwai y Dr. ef mewn amaethdy or enw Greenway, oedd yn agos i Bontestyll, yn ngwasanaeth amaethwr parchus or enw Parry. Cyflogid ef fel gwas bach i yru ceffylau i aredig, &c. Nid oedd y pryd hwnw ond braidd tair-ar-ddeg oed, ond ni fu yn hir yn y " sefyllfa gyhoeddus 'hon: tynodd sylw teulu cyfrifol ac uchel o'r enw Clifton oedd yn y Ty Mawr, Llanfrynach, ac felly, cafodd ei ddyrchafu i fod yn wesyn (page) bach i weinyddu ar y boneddigesau yn y teulu hwn. Cafodd yr hyfrydwch y pryd hwnw o deithio llawer gyda'r teulu. Dyfyrus dros ben oedd ei glywed yn adrodd yr amgylchiadau hyn. Gwnai hyny yn ei ffordd ddoniol a naturiol ei hun hyd y collai ddagrau gan lawenydd a diolchgarwch am y gofal a'r tynerwch a dderbyniasai yn neillduol gan y boneddigesau ieuainc, y Misses Clifton. Tra yn Mherthybala yr oedd yn cyrchu i'r Ysgol Sabbothol yn Mhontestyll, lle y dysgodd ddarllen Cymraeg drwy offerynoliaeth "Charles y Gof," sef y brawd Charles Thomas, yr hwn oedd yn weithiwr diwyd a chysson gyda'r achos da yn y lle hwnw, a thra yn nheulu y Cliftons dysgodd ddarllen Saesneg. Yr oedd y boneddigesau ieuainc yn rhai tra rhinweddol ac yn ymhyfrydu mewn gwneuthur daioni. Cadwent Ysgol Sabbothol yn eu teulu eu hunain; teimlent ddyddordeb mawr yn eu gwesyn ieuanc, Tom Price; ac yr oeddynt am feithrin a thynu allan y talentau dysglaer a gredent fod yn y llanc tyner a charedig; felly, rhoddent iddo wersi dyddiol mewn darllen, ysgrifenu, a rhifyddiaeth, nes iddo yn y diwedd ddyfod yn dipyn o athraw ei hun. Fel hyn y gosodwyd sylfeini llydain a chedyrn bywyd defnyddiol a gwerthfawr y Dr. i lawr.

Gallwn ddychymygu am dano erbyn hyn yn fachgenyn tra thlws, ei wyneb crwn, gwridgoch, yn ddengar neillduol, a'i gorffyn bach wedi ei wisgo yn lifrai y teulu, a'r boneddigesau yn dra hoff o hono, yn cribo ei wallt du, modrwyog, ac yn gwrteithio ei feddwl bachgenaidd a bywiog, yn ddigon diarwybod iddo ei hun, ac heb fawr meddwl o'u tu hwythau am y ddarpariaeth tuag at y defnyddioldeb mawr y buont yn offerynol i'w hwylusu ar y pryd hwnw.

Tra yn ngwasanaeth y teulu hwn cafodd fyned i'r Cyfan-