Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dir. Bu gyda'i feistr ieuanc am dro yn Rhufain, ond ychydig iawn gofiai am y "ddinas dragwyddol." Adroddai am y teithiau hyn wrth ei hen gyfaill, Jenkin Howell, Aberdar, pan gyda'u gilydd yn treulio prydnawn ar greigiau ysgythrog y Mumbles. Cafodd Price fyned gyda'r teulu un tro i lanau y môr tua'r Mumbles ger Abertawy, ac yn y ty lle yr oeddynt yn aros yr oedd hen argraffiad mawr a darluniadol o Daith y Peverin. Tynodd y llyfr hwn ei sylw ef, a darllenodd yntau ef gyda blas a melusder anarferol, trwy yr hyn y daeth i ddechreu teimlo awydd darllen a meddwl ychydig drosto ei hun. Pwy all ddweyd pa nifer o filoedd y mae y dychymyg rhyfeddol hwnw wedi bod yn foddion i roddi y cyffroad cyntaf i'w meddyliau?

Yn ystod y blynyddau y bu Price yn nheulu y Cliftons, sicrhaodd barch a theimlad da y rhai oeddynt fel yntau yn ngwasanaeth y teulu. Hoffai, yn mhen blynyddau wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, gyfarfod â hwynt, a theimlai ddyddordeb mawr mewn adrodd helyntion yr hen amseroedd pan oeddynt gyda'u gilydd. Cyfarfyddai yn achlysurol â Mr. Joseph Bryant, yr hwn oedd yn goachman gyda'r Cliftons yr amser yr oedd efe yn wesyn yn y teulu, ac ysgydwent ddwylaw yn wresog rhyfeddol o bob tu, gan arddangos y dyddordeb mwyaf yn eu gilydd a'r parch dyfnaf y naill at y llall. Clywodd y Dr. unwaith fod yr hen fwtler oedd yn y Ty Mawr, yr hwn a alwai yn Joe Bromwich, yn byw yn Aberhonddu. Y cyfle cyntaf a gafodd i fyned i'r dref, gwelid ef yn ymholi yn daer ac yn chwilio yn fanwl am Joe, gan fyned o heol i heol ac o ddrws i ddrws nes o'r diwedd yn cael clywed ei fod wedi myned o'r dref i fyw yn herwydd tlodi. Teimlai y Dr. ddyddordeb mawr yn yr hen fwtler, oblegyd i ddysgyblaeth dadol, ond llem, yr hwn y dywedai ei fod mewn dyled fawr. Er nad oedd ond dyn hollol annuwiol, yr oedd ynddo y fath onestrwydd a pharch i wirionedd a dynoliaeth, fel y bu yn athraw gwerthfawr iddo. Yn ffodus, cyfarfu â r hen gyfaill yn y dref dranoeth, a phrydferth iawn oedd gweled y dagrau yn llygaid y naill a'r llall o honynt wrth gofio y cyflwr gynt a'r cyfnewidiadau mawrion oeddynt yn nghyflwr a sefyllfa pob un yn awr. Yr oedd yr hen fwtler yn falch iawn i weled Tom bach wedi myned yn Ddoctor mawr.

Yn ystod yr amser yr oedd Price yn ngwasanaeth y Cliftons bu ei feistr farw o'r ddarfodedigaeth. Hyn, mae yn debyg, fu yn achlysur iddo ymadael â'r teulu. Symmudodd