Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i Dref Aberhonddu, lle yr ymrwymodd yn brentis gydag un o'r enw Thomas Watkins o'r Struet, yn baentiwr, gwydrwr, a phlymiwr. Pan yn nheulu parchus y Ty Mawr darfu i'r bachgen gofalus a chynnil, Tom, er nad oedd ei gyflog ond bechan, trwy ei chadw a chael ambell anrheg, gasglu yn nghyd y swm o £21, yr hon a dalodd am ei brentisiaeth i'w feistr Watkins. Dengys hyn pa beth all bechgyn ei wneyd drwy gynnildeb a gofal. Yn ystod tymhor ei brentisiaeth roddodd i ddysgu ei grefft gyda'r egni a'r diwydrwydd mwyaf; ac nid hir y bu cyn profi fod ynddo alluoedd y tu hwnt i'r cyffredin i ddysgu a meddiannu gwybodaeth o'i alwedigaeth. Yn fuan hefyd daeth yn ffafrddyn gan y teulu a'i gydweithwyr, ac ennillai barch ac edmygedd pawb y deuai i gyssylltiad â hwy.

Arferai y Dr. alw gyda'i hen feistr pan yn myned i Dref Aberhonddu, a golygfa angylaidd a thra dymunol oedd gweled ei hen feistres yn estyn cusan iddo fel mam dyner i'w mab gofalus a ffyddlawn, a'r hen feistr yn gafaelyd yn llaw y bachgen â'i ddwylaw, gan grechwenu wrth weled y paentiwr a'r gwydrwr wedi myned yn enwog. Yr oedd hyn yn brawf da hefyd fod Thomas Price wedi bod yn was da ac yn ffyddlawn yn ei wasanaeth.