Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/261

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drysorydd cyfrinfa, yr hwn a ddygwyddodd yn yr un modd fyned yn fethdalwr. Yn eu gofid am eu perygl o golli yn agos i £20, aethant at Dr. Price fel yr unig berson tebyg i'w cynnorthwyo yn yr amgylchiad. Gosodasant eu hachos yn eglur o'i flaen, ac hyspysasant ef fod dodrefn y gwesttywr yn cael eu gwerthu y diwrnod hwnw. Anfonodd Price hwynt at yr arwerthydd i ofyn am arian y gyfrinfa cyn dechreu gwerthu. Rhegodd yr arwerthydd, a gofynodd yn wawdus, 'Pwy yw Dr. Price, mi garwn wybod?' er ei fod yn ei adwaen yn dda) Gwrthododd dalu. Awd eilwaith at y Dr., ac adroddwyd yr hanes iddo. Ysgrifenodd Price nodyn at yr arwerthydd, yn ei hyspysu y buasai efe ac heddgeidwad yn cydio ynddo ac yn ei osod yn y carchar can gynted ag y dechreuai werthu, os gwnelai hyny cyn talu yr arian dyledus i'r gyfrinfa. Dychrynwyd yr arwerthydd, a thalodd yr arian yn y man.

"Mewn achos arall yr oedd cyfrinfa yn gwrthod talu gofynion y chwarter arni yn y dosparth. Gwrthodai ar y ddadl nad oedd wedi ei chofrestru. Aeth yn gyfraith rhwng y dosparth a'r gyfrinfa. Ymddiriedwyd achos yr adran i ofal Dr. Price. Fodd bynag, aeth y ddedfryd yn yr helynt yn erbyn yr adran, a chollodd y Dr. y dydd. Wedi myned allan o'r llys, gwelid Dr. Price yn edrych yn dra diflas a siomedig; ond pan oedd efe ac ychydig frodyr oeddynt gydag ef yn yr achos yn cym. meryd ychydig luniaeth, neidiodd y Dr. yn sydyn ar ei draed, fflamiai ei lygaid treiddgar, a gwisgai ei wyneb, oedd ychydig cyn hyny yn arddangos y pryder mwyaf, y sirioldeb a'r bywiogrwydd a'i nodweddent yn gyffredin, a dywedodd. 'Fechgyn, gwelaf hi yn awr: rhaid ail-godi yr achos hwn; y mae pob peth yn iawn etto.' Gwnaeth hyny ar egwyddor wahanol i'r tro cyntaf; a phan yn y llys gofynodd ganiatad y barnwr i arwain ei achos ei hun. Caniatawyd y ffafr iddo. Yr oedd y gyfrinfa wedi cyflogi Mr. Simons, un o'r cyfreithwyr galluocaf yn Merthyr, yn ei erbyn. Dygid yr achos yn mlaen gerbron y Barnwr Faulkner, ac wrth godi i amddiffyn y gyfrinfa, dywedodd Mr. Simons, 'I must admit, your honour, that I am now going to argue with the Solicitor-General of the Friendly Societies: he knows all about them.' Ennillodd y Dr. yr achos, a chafodd glod ac enw am ei wrhydri.

"Nid yw yr enghreifftiau hyn ond ychydig o lawer allem nodi am dano fel un galluog a medrus fel cyfreithiwr y cymdeithasau cyfeillgar. Mewn gwirionedd, pan oedd Price yn anterth ei nerth ac yn nghanol ei bobl. ogrwydd, nid ystyrid y pwyllgorau, y cyfarfodydd chwarterol, a'r cynnadleddau blynyddol, yn llawnion os na fyddai yr enwog Ddr. yn bresenol. Trwy ei gyssylltiad â'r cymdeithasau cyfeillgar, ennillodd lawer o brofiad a dylanwad. Teimlid parch cyffredinol ato, a cherid ef yn fawr gan ei frodyr yn y gwahanol urddau. Pan syrthiodd yn angeu, teimlid fod un o'r cedyrn wedi cwympo yn rhengau y cymdeithasau cyfeillgar, ac nad hawdd oedd cael neb i lanw ei le. Gweithiodd yn galed arn flynyddoedd lawer. Cafodd anrhydeddau uwch a lluosocach nag un Cymro fel aelod o'r cymdeithasau cyfeillgar, a bydd ei enw yn perarogli yn eu plith am flynyddau lawer i ddod."