Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XX.

FEL DYN, CRISTION, A BUGAIL.

Y dyn-Edrych arno o wahanol gyfeiriadau-Wedi ymddadblygu Y dderwen-Price yn ei gyflawn faintioli-Ei ddyn oddiallan Darluniadau Myfyr a Lleurwg o hono- Dyn cavedig Evan Thomas, Casnewydd-Ei farn-Dyngarwr- Cholera 1849-Cydymdeimlo a'r trallodus-Police Court-Barn Rhys Hopkin Rhys-Tynu sylw yn mhob man Ei ddiffygion i'w hannghofio-Dyn cyflawn a thrwyadl - Cristion trwyadl-Dylanwad Yspryd Duw ar ei galon-Anhunangar, gostyngedig, a dirodres Barn Dr. Morgan arno fel Cristion-Bugail diwyd, llafurus, a thyner-Llawn cydymdeimlad—Sylw neillduol i'w bobl - Dysgu "business habits" i'w eglwys-Gofalus am y pwlpud-Caredig i'r gweddwon-Er mor fawr a gofalus, suddo yn yr angeu fel haul Mehefin-Ei lewyrchiadau yn aros ar ol-Claddedigaeth dywysogaidd - Trefniadau-Mynegiad o'r angladd o "Seren Cymru"-Ei bregeth angladdol- Argraff addas ar ei gofadael.

ER mwyn cael adnabyddiaeth drylwyr o gymmeriad unrhyw ddyn, y mae yn ofynol edrych arno dan amrywiol amgylchiadau, ac yn mhob agweddiad, ac o bob ochr. Y mae y darlunydd yn gyffredin, pan y mae yn tynu ei fraslun at bortread, yn tremio ar ei wrthddrych o bob sefyllfa-o'r ochr ac o'r lled-ochr, yn gystal a chyferbyn â'r wyneb: myn adnabod y profile, y three quarter, a'r enfront, cyn yr ystyria ei hun yn barod at waith. Nis gellir cyflwyno ardeb cywir o Dr. Price heb syllu arno o wahanol fanau, a than amrywiol amgylchiadau. Yr ydym wedi tremio arno o rai manau neillduol yn barod. Ni a'i gwelsom yn llanc, yn dechreu ei fywyd cyhoeddus; yn fyfyriwr; yn llanw cylchoedd pwysig yn ei enwad ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Edrychasom arno fel gwleidyddwr, llenor, darlithiwr, a phregethwr; eithr nid oedd y rhai hyn amgen ystyllweddau (profiles) ei ardeb-rhanau cyfansawdd ei gymmeriad. Ond er mwyn cael golwg deg arno, rhaid edrych i'w wyneb fel dyn, Cristion, a bugail, oblegyd er mor fawr ydoedd yn y cyfeiriadau lluosog a