Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grybwyllasom am dano, yr oedd yn fwy yn yr arweddion hyn. Y mae gwahaniaeth dirfawr yn nghynlluniau a dullweddion bywgraffwyr gyda'r gwrthddrychau a bortreiadant. Darlunia rhai, yn flaenaf oll, y dyn, ac yna dywedant bob peth buddiol am dano ragllaw, tra y mae ereill yn ei ardebu yn ol cwrs amgylchiadau, wedi iddo gyrhaedd cyflawn oed; ond yr ydym ni wedi dewis gadael y dyn hyd iddo ymddadblygu yn llawn, fel y gallem wahodd pawb i edrych arno, ac iddynt ar unwaith weled y dyn. Nis gellir yn briodol ddarlunio y dderwen yn y fesen; ond wedi i'r dderwen dyfu yn dalfrig, lledu ei breichiau preiffion, bwrw dail, a gwrthsefyll ystormydd brochus gauafau lawer, y mae yn ddyogel dweyd am dani, a rhoddi darluniadau o honi. Dr. Price yn ei gyflawn faintioli sydd genym yn y dyn; dyn wedi tyfu yn dalach na'r dynion talaf braidd yn yr un dosparth ac amgylchiadau ag ef ei hunan; un wedi lledu yn ei ddylanwad i bob cylch a chyfeiriad, a phawb braidd yn synu at ei fawredd. Gallem fanylu llawer arno fel dyn; ond gan fod ei hanfodion wedi cael ein sylw mor helaeth, a gwahanol elfenau cyfansawdd ei gymmeriad godidog yn flaenorol wedi eu cyfeirio allan, teimlwn nad oes eisieu, bellach, ond dweyd, Wele y dyn yn gyflawn—edrycher arno. O ran corff, yr oedd hytrach yn fyr, wedi ei adeiladu yn gadarn a nerthol. Yn ei ddyddiau boreuol, ac hyd y nod yn anterth ei nerth, yr oedd ei wallt can ddued a'r frân: yr oedd yn ngwir ystyr y gair yn bengrych a phengrwn. Meddai lygaid bywiog, llawnion, yn fflachio gan drydaniaeth eneidiol, ac yr oedd ei wyneb yn agored, serchus, ac arddangosiadol, fel y dywed Myfyr Emlyn—"yn llefaru cyn bod y tafod wedi symmud, ac yn awgrymu dawn cyn iddo ddweyd dim. Yr oedd yn fywiog ei yspryd a'i symmudiadau, ac yn meddu ar gymmaint o fywyd ac yni ag a amlygir gan hanner dwsin o ddynion cyffredin."

Rhydd Dr. Morgan (Lleurwg), yr hwn a'i hadwaenai yn dda er pan oeddynt yn gydfyfyrwyr, ddesgrifiad pur gywir o hono yn y brawddegau a ganlyn:—

"O ran ei gorff nid oedd Dr. Price ond gwr o faintioli cyffredin; ond yn ei amser goreu yr oedd pob ystum a symmudiad o'i eiddo yn llawn yni a bywiogrwydd, ac yr oedd ei holl synwyrau corfforol mor gryfion a chraffus, fel nad oedd neb na dim braidd yn dianc heb iddo ef sylwi arno. Cerddai yn gyflym a digryn, ac i berson dyeithr gallasai ymddangos fel yn hytrach yn fwdanus (fussy). Yn mlodau ei ddyddiau