Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei feiau." "Eithaf gwir," meddai Mr. Hughes; "mae arnaf ofn dweyd dim am ei feiau, rhag ofn fod Duw wedi eu maddeu, ac os yw Duw wedi eu maddeu, ofnwn y digiai Efe wrthym pe soniem am danynt yma." Felly y dywedwn ninau am ein gwrthddrych; beth bynag a faint bynag oedd ei ddiffygion, credwn fod Duw wedi eu maddeu oll. Felly, gwell gadael llonydd iddynt, a chodi a galw sylw y byw at ei ragoriaethau.

Y rhai, credwn yn ddiamheu,
Yn ddiadfail golofn fydd.

Treuliodd fywyd llafurus, gweithgar, a defnyddiol iawn, a theimlir parch arosol i'w enw a'i goffadwriaeth. Yr oedd yn ngwir ystyr, a phob ystyr o'r gair, yn ddyn cyflawn a thrwyadl.

Gellir hefyd ddweyd gyda sicrwydd mawr ei fod mor drwyadl yn Gristion ag ydoedd yn ddyn, oblegyd meddai ar yspryd teilwng o un yn ofni Duw, a gweithredai bob amser fel un yn teimlo dylanwad yr Yspryd Tragwyddol yn gryf ar ei galon. Cadwai bob amser ogoniant Duw a lles dynion o flaen ei lygaid, ac ni welid ef byth yn arfer un math o dwyll na hoced i geisio dyrchafu ei hun. Nid hunan oedd ganddo mewn golwg ond gogoniant Duw. Yr oedd yn foddlon dwyn ei holl gofnodau goruchafiaeth (trophies) at droed y Groes, i gyssegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei Feistr. Yr oedd yn hawdd ei drin; nid oedd yr holl godiad a'r dyrchafiad gafodd gan ddynion ac mewn cymdeithas yn effeithio arno er niwed, ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nid ydoedd efe byth yn ymdrafferthu i gael y werin dybied ei fod yn dduwiolach nag oedd mewn gwirionedd; yr oedd yn berffaith rydd oddiwrth rodres (affectation) a hoced. Gwr dysyml ydoedd. Am dano fel Cristion, dywed yr enwog Ddr. Morgan, Llanelli:—

"Yr oedd yn hynod syml, naturiol, ac anymhongar. Nid oedd dim o'r anesmwytho, a'r ymffunio, a'r anffurfio, sydd i'w ganfod mor fynych hyd y nod yn ein dyddiau goleuedig ni yn perthyn iddo ef. Credai ef y gallesid bod yn saint a bod yr un pryd yn bobl mor naturiol ag y crewyd ni gan Dduw. Ond O! y dinystr sydd, o amser y Phariseaid gynt hyd y lluaws Phariseaid presenol, wedi ei achosi gan bobl, drwy ragrith, a chymmeryd arnynt, a hirwynebu, sydd wedi bod yo ceisio camarwain