Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu cyd—ddynion a thwyllo yr Hollwybodol. Nid yn unig yr oedd Dr. Price yn Gristion o'r iawn ryw, ond yr oedd hefyd yn un o'r Cristionogion mwyaf serchog a haelionus yn yr holl wlad; ac yn ei gyfeillach ac mewn cydymddyddaniad ag ef yn bersonol yr oedd yn un o'r rhai mwyaf hawddgar, dirodres, dyddan, a chariadus y gallesid byth ei gyfarfod."

Fel bugail, yr oedd yn ddiwyd, llafurus, ymdrechgar, a manwl iawn. Yr oedd yn onest a di-dderbyn-wyneb. Cydymdeimlai â'r trallodus, a chydlawenhäai â'r dedwydd a'r llwyddiannus. Llanwai ei holl gylchoedd personol, teuluaidd, a chyhoeddus yn anrhydeddus a difwlch. Coleddai farn uchel iawn bob amser am bobl ei ofal, a golygai nad oedd y fath eglwys a Chalfaria mewn bod. Yr oedd yn neillduol o ofalus am y cleifion. Ymwelai à hwy yn gysson a chyfundrefnol, a gwnai sylw arbenig o'r hen bobl yn ei eglwys a'i gynnulleidfa. Ni welsom erioed neb Gwnai ei yn fwy llwyr ei ofal am y bobl ieuainc. hun yn blentyn gyda'r plant, ac yr oedd yn ddedwyddwch mawr i'w enaid allu gwneyd rhywbeth i helpu y dynion ieuainc, yn neillduol y rhai fuasent yn pregethu tipyn. Yr oedd ganddo drefn a chyssondeb yn holl weithrediadau ei eglwys. Yr oedd wedi ei dysgu, fel efe ei hun, yn llawn o business habits. Ni fu gwell eglwys erioed am accommodation i ddyeithriaid mewn pwyllgorau neu gyrddau neillduol na Chalfaria, a'r oll yn herwydd yr hyfforddiant oedd wedi ei gael ganddo ef. Nid oedd byth yn esgeuluso y pwlpud, er yr holl waith a gyflawnai. Mynai yn gyffredin ddyddiau Gwener a Sadwrn i barotoi at y pwlpud. Gofynid iddo weithiau pan yn myned gydag angladd i'r gladdfa ar brydnawn Sadwrn, i aros gyda chyfeillion i gael cwpanaid o dê, ond gwrthodai yn ddieithriad, a dywedai fod arno frys dychwelyd gartref—fod rhyw fater gan Daniel, Zachariah, neu un o'r proffwydi, ag eisieu ei setlo erbyn y Sabboth; a phan fyddai efe yn talu ymweliad â'i bobl, nid cedd yn aros yn hir gyda hwynt yn eu tai. Yr oedd yn neillduol o garedig i'r hen widwod yn ei eglwys, ac yn ofalus iawn am danynt. Gwahoddai hwy weithiau gydag ef i'r Rose Cottage i dreulio prydnawn, a chaent wledd yn iawn o dê a theisen. Gofalai yn hynod felly am gofrestr yr eglwys, a mynai weled fod pob peth yn gweithio gyda'r ystwythder mwyaf. Profir hyn yn amlwg gan y ffaith ei fod wedi cadw y peiriant i fyned yn hwylus a llwyddiannus am dros ddeugain mlynedd.