Ond, ond, er cystal dyn ydoedd, er mor dryloew fel Cristion, a ffyddlawn a gofalus fel bugail, collwyd y dyn yn niwl y glyn, ymddangosodd y Cristion yn ogoneddus yn ngwawl y gogoniant, ac aeth y bugail i orphwys wedi oes faith o lafur caled a lludded mawr. Yn briodol y gellir dweyd am dano, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio yn Israel?" Syrthiodd, nid dan gwmmwl, nid dan draed gelynion, ond yn angeu. Hunodd yn yr Arglwydd; machludodd yn ogoneddus fel haul Mehefin, wedi bod am ddeugain mlynedd yn adlewyrchu o'r areithfa, ac mewn bywyd o ddefnyddioldeb, oleuni Haul y Cyfiawnder; ac er ei fod ef wedi suddo dros y gorwel, erys llewyrchiadau ei fywyd gogoneddus yn hir ar ol. Hunodd yn yr Iesu ar y nawfed dydd ar hugain o Chwefror, 1888, a chladdwyd ef yn mynwent Calfaria, y dydd Mawrth canlynol. Gwnaeth yr eglwys drefniadau deheuig a hwylus erbyn yr angladd, a dyfynwn fyr fynegiad o honi o Seren Cymru am Mawrth 16, 1888:—
"Yn gynnar dydd Mawrth, Chwefror 6ed, gwelid gweinidogion a lleygwyr parchus yn dyfod i'r dref o bob cyfeiriad gyda phob trên, a thua 1.30 yr oedd Cardiff Road, yn agos i'r Rose Cottage, yn llanw yn gyflym gan bobl barchus o wahanol fanau yn Nghymru, wedi dyfod i dalu y parch olaf i un mor hoff ganddynt. Wrth y ty darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. Bazzet Thomas, Caerdydd, gweddiwyd gan y Parch. T. Jones, Carmel, Aberdar, a chafwyd anerchiad tra phwrpasol gan y Parch. W. Morris, Treorci. Wedi canu cychwynwyd yn araf am fynwent Calfaria yn y drefn yr oedd y pwyllgor yn ddoeth wedi ei thynu allan:—Y gweinidogion o bob enwad yn flaenaf, yn cael eu dylyn gan y Rhydd Faswniaid, y Cymdeithasau Cyfeillgar, Aelodau y gwahanol Fyrddau, masnachwyr, y cyhoedd, cynnrychiolwyr y gwahanol Eglwysi Bedyddiedig, arolygwyr yr Ysgolion Sabbothol, aelodau, cynnulleidfa, ac Ysgol Sul Calfaria, y côr, yr arch (cludwyr—diaconiaid Calfaria), galarwyr.
"Cynnrychiolid y gwahanol fyrddau a sefydliadau yn y rhai oedd y Dr. wedi bod yr flaenllaw yn eu ffurfiad, ac yn aelod defnyddiol o honynt am flynyddau. Hefyd, yr oedd nifer luosog o brif fasnachwyr y dref a'r dyffryn yn bresenol, yn dangos eu parch i'r teulu a'r Dr. ymadawedig.
"Yr oedd eglwysi y Bedyddwyr yn y dyffryn yn cael eu cynnrychioli yn yr angladd gan eu diaconiaid, arolygwyr eu Hysgolion Sabbothol, a'r cantorion, yr olaf oeddynt wedi ymuno â chôr Calfaria, dan arwein-