iad medrus Mr. Theo. Jenkins, A.C., Calfaria. Yr oedd y côr yn blaenori y corff, bob ochr i'r hwn y cerddai diaconiaid y Dr., oddiwrth y ty hyd y capel. Hwynthwy oeddynt yn codi y corff wrth y ty. Yna cariwyd gan aelodau y cymdeithasau cyfeillgar, a chafodd y diaconiaid ofal y corff o'r capel hyd y gosodasant ef i orphwys yn vault y teulu.
"Yn fuan gorlanwyd capel Calfaria, ac yr oedd miloedd allan wedi hyny. Agorwyd Carmel, y capel Saesneg, a llanwyd hwnw drachefn, a gorfu i gannoedd lawer aros allan dros y gwasanaeth angladdol a gynnaliwyd yn y ddau gapel.
"Yn Nghalfaria, darllenwyd gan y Parch. P.Williams (Pedr Hir), Tredegar; gweddiwyd gan y Parch. W. Williams, Rhos, Mountain Ash; anerchwyd y gynnulleidfa gan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin (gyda'r hwn yr oedd trefniadau yr angladd); J. Roberts, Rhydfelen; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. Todd, Llundain (yn Saesneg); J. Davies (A.), Soar, Aberdar; W. James (M.C.), Aberdar, a E. Thomas, Casnewydd. Terfynwyd trwy weddi gan Jones, Philadelphia. Siaradwyd yn Carmel gan y Parchn. J. R. Jones, Llwynpia; Proff. Edwards, a Dr. Rowlands, Llanelli.
Siaradwyd ar lan y bedd gan y Parch. J. Lewis, Belle Vue, Abertawe, a therfynwyd trwy weddi gan Dr. Williams, Pontlottyn. Ymddiriedwyd trefniadau yr angladd i bwyllgor o weinidogion y cylch. Bernir fod tua phum' mil yn yr angladd, a thros bum' mil arall o edrychwyr, y rhai a ymddygent yn hynod deilwng o'r amgylchiad pruddaidd. Cafwyd cynnorthwy sylweddol gan yr heddgeidwaid i gario allan y trefniadau yn effeithiol a gweddaidd, ac y mae clod mawr yn ddyledus i'r Arolygydd Thorney am ei garedigrwydd.
"Teimla trigolion Aberdar yn chwithig heb un Dr. Price. Y mae y dref yn teimlo hiraeth a cholled ar ei ol. Yr Arglwydd a fyddo yn nodded i'w deulu galarus, ac a fendithio eglwys barchus Calfaria yn yr amgylchiad."
Pregethwyd ei bregeth angladdol gan ei hen gydfyfyriwr parchus, yr Hybarch E. Thomas, Casnewydd, y nos Sul yn mhen yr wythnos, pryd yr ymgynnullodd tyrfa aruthrol i'w gwrandaw, mewn teimladau dwys a galar mawr ar ol yr anwyl Ddr.
Aeth yr eglwys i'r holl dreuliau claddu, a gosodwyd y beddrod i fyny yn daclus, a cherfiwyd yr adgof canlynol ar farmor gwyn yn y gofadail uwch ben y bedd:—