Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/272

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXI.

ENGHREIFFTIAU O'I AREITHIAU.

Araeth Yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr—Araeth yn Exeter Hall—Araeth ar y Genadaeth Dramor—Araeth Wleidyddol yn Aberhonddu

ARAETH YN NGHYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS TRAETHODAU Y BEDYDDWYR

(Allan o'r "Primitive Church Magazine.)

CYNNALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas uchod dydd Iau, Ebrill y 27ain, 1865, yn un o Ystafelloedd Exeter Hall, Llundain, dan lywyddiaeth Dr. Price, Aberdar. Am hanner awr wedi pump dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus drwy ganu mawl i Dduw; ac wedi i Mr. Stock, o Devonport, anerch gorsedd gras, cyfododd y cadeirydd i draddodi ei araeth arweiniol. Dywedai,

"Y mae y Gymdeithas hon wedi cyhoeddi 3,636,525 o draethodau, yn cynnwys pedair miliwn ar bymtheg o dudalenau. Gwasgarwyd y rhai hyn yn ngwahanol barthau y wlad, ac yn mhob man hauasant egwyddorion yr Efengyl. Oddiwrth erthygl bwysig iawn a gyhoeddwyd yn y Freeman allan o'r Spectator, gellid meddwl fod cyfenwad y Bedyddwyr ar gael ei lyncu gan yr enwad Annybynol. Cynnwysai yr erthygl dan sylw lawer iawn o synwyr a gwirionedd, ac hefyd lawer o gamsyniadau. Yr oedd yn gywir pan yn dywedyd nad oeddym yn llwyddo megys y dylasem; ond nid ydyw yn wirionedd ein bod ar gael ein llyncu i fyny gan yr Annybynwyr. Yr ydym yn gorff rhy fawr i gael ein llyncu. Daw gwrthweithiad etto, ac yn y diwedd perchir Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr am sefyll fel y gwna o blaid yr Efengyl. Oddiwrth erthygl a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Baptist Magazine, canfyddwn mor hawdd y syrthia rhai i'r cyfeiliornad o dybied y dylem ni adeiladu capeli i bawb sydd yn cael eu cynhyrfu gan gariad brawdol. Tra fyddo un lleidr yn y plwyf, bydd yn rhaid cael cloion i'w gadw ef allan; a thra fyddo personau yn ein mysg yn