barod i drosglwyddo meddiant y Bedyddwyr i ereill, bydd yn rhaid i ni gael gweithredoedd ymddiriedol (trust deeds). Wrth gyhoeddi y ddwy erthygl uchod, dywedai y Patriot fod ganddynt yr hyfrydwch mawr o gyhoeddi fod y Freeman a'r Baptist Magazine am gael gweithredoedd ymddiriedol, heb un gair o son ynddynt am fedydd na Bedyddwyr. Cynnygiai, ond i ni fynu gwared o'r gair Bedyddiwr,' y buasai yr Annybynwyr yn barod i roddi fyny eu henw hwythau. Ond atolwg, pa beth sydd gan yr Annybynwyr i'w roddi fyny? Dim ond bretyn bychan halogedig, wedi ei fenthyca oddiwrth Eglwys Rhufain, tra yr annogir ni i roddi fyny ordinhad a sylfaenwyd gan y Gwaredwr, ac a arferwyd gan yr apostolion. Ac etto i gyd, y mae llawer o weinidogion y Bedyddwyr, a gwyr arweiniol hefyd, yn barod i eilio a gweithredu yn ol golygiadau y Patriot. Yn ystod y cyfarfodydd eleni, dywedai un o'n prif ddynion, ei fod ef wedi cymmeryd ystafell mewn tref yn unig i bregethu yr Efengyl, ac nid i ffurfio eglwys, gan adael y personau a argyhoeddid i ymuno â'r eglwys a fynent. Pe buasai un o amaethwyr y wlad yn braenaru ei dir, yn hau ei had, yn medi y cnwd yn amser y cynauaf, ac wedi hyny yn gwahodd ei gymmyd- ogion i ddyfod a chludo yr ysgubau ymaith iddynt eu hun- ain, buasem oll yn galw y dyn hwnw yn ffwl; a chredaf fi fod y neb a gasglo eneidiau at Grist yn y dull uchod, heb ffurfio eglwys, yn ffwl hefyd. Yr ydym ni i alw ar ddynion i edifarhau, a chredu, cymmeryd eu bedyddio i enw y Drindod, ac i ymuno â phobl yr Arglwydd. Pa fodd y darfu i chwi yn Llundain fethu derbyn cynnyg Syr Morton Peto, i adeiladu nifer neillduol o gapeli ar yr ammod i'r enwad wneyd ei ran? Credaf mai am fod ein cyfeillion wedi gwasgu i feddyliau eu pobl y grediniaeth nad oes eisieu capeli i'r Bedyddwyr, am y gallant fyned i addoli i gapeli yr Annybynwyr. Nid wyf, gan hyny, yn synu dim at y canlyniad. Yr ydych yn gwneyd eich goreu i ddysgu eich pobl fod un enwad yn llawn cystal â'r llall, ac ychydig yn well hefyd. Wrth edrych i'r dyfodol, â llygad dynol yn unig, os eir yn miaen fel yr ydys yn awr yn myned, gellir dysgwyl y bydd deg neu bymtheg mlynedd ar hugain yn ddigon i ddifodi y Bedyddwyr fel cyfenwad o grefyddwyr. Am Loegr yn unig yr wyf yn llefaru. Nid ydyw pethau fel hyn yn Nghymru, nac yn Ewrop, nac yn America, nac yn y meusydd cenadol. Ond yn Lloegr bydd y cyfryw ganlyniad yn sicr o gymmeryd lle, os nad attelir ef gan
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/273
Gwedd