Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fedyddwyr Caeth Lloegr. Gobeithiaf, gan hyny, y bydd iddynt gael eu bendithio â modd. A gaf fi lefaru gair neu ddau wrth y Bedyddwyr Caeth? Yr wyf yn Gaeth Gymunwr trwyadl, ac yn hyn yr wyf yn hollol gyduno â'm brodyr Cymreig. Credaf y dylech chwi gymmeryd eich lleoedd priodol yn y cyfenwad. Ystyriaf nad ydych chwi, fel Bedyddwyr Caeth, yn gyffredin wedi gwneuthur hyny. Nid ydych wedi peru i chwi gael eich clywed a'ch teimlo yn ddigionol. Nid ydych yn dwyn eich dylanwad i weithredu i raddau digonol ar y cyhoedd. Nid oes genych yn Llundain gymmaint ag un gymmanfa o fath y rhai sydd genym ni yn Nghymru. Carwn yn fawr weled yr holl Fedyddwyr Caeth yn uno gyda'u gilydd i gynnal achos Duw. Credaf fod cynnifer o eglwysi o Fedyddwyr Caeth yn Llundain yn y blynyddoedd a aethant heibio ag sydd heddyw. Dylem ni, Fedyddwyr Caeth Cymru a Lloegr, fod yn fwy unol. Hir y cofir am araeth gynhyrfus Mr. Norton yn Nghymmanfa olaf Swydd Forganwg. Anfonwch ef, neu eich trysorydd, etto, fel y byddo i chwi gael ychydig yn ychwaneg o'r tân Cymreig. Bydded i ni gael mwy o undeb. Y mae genym yn y Dywysogaeth boblogaeth, mewn llawn rifedi, o filiwn o eneidiau, o'r rhai y mae 65,000 yn aelodau yn yr eglwysi Bedyddiedig. Nid oes genym ond pedair neu bump o eglwysi o Rydd Gymunwyr, ac y mae y rhai hyny oll yn Saeson. Yr ydym ni Gymry o waed pur. Nis gwyddom ddim am gymmysgedd. Pa ragoroldeb sydd mewn cymundeb cymmysg, nis gallaf fi ddirnad; ond gwn beth yw dwfr a llaeth wedi eu cymmysgu. Pan oedd Andrew Fuller ar ymweliad â Scotland, gofynwyd iddo fabwysiadu eu gofygiadau hwy; ond gwrthododd wneyd hyny hyd oni chaffai weled eu ffrwythau. Y mae gan ddynion hawl i ofyn beth all y Bedyddwyr Caeth ei wneyd, a gallant ddysgu rhywbeth ar y pwnc hwn oddiwrthym ni yn Nghymru. Yr ydys mewn rhai manau yn condemnio y Bedyddwyr Cymreig, fel rhai cul mewn barn ac ymarferiad, oblegyd nad ydynt yn derbyn neb at fwrdd yr Arglwydd ond rhai wedi eu bedyddio ar broffes o'u ffydd. Ond yr ydym ni yn ymogoneddu yn y ffaith fod yr holl eglwysi Cymreig yn ymlynu yn y ffurf hon o athrawiaeth, Eglur yw fod Duw yn gwenu arnom tra yn canlyn y llwybr hwn. Mae genym hawl i farnu y pren wrth ei ffrwyth, a byddwn yn fwy galluog i wneuthur hyny drwy gymharu cyflwr Cyfenwad y Bedyddwyr yn Nghymru â'i gyflwr mewn rhyw ran o Loegr,