lle mae y boblogaeth yn gyffelyb. Y mae poblogaeth Yorkshire yn fwy. Cynnwysa 2,033,610, tra nad yw poblogaeth yr oll o Gymru, yn nghyd â Swydd Fynwy, ond 1,286,413; felly, mae poblogaeth Cymru yn llai nag eiddo Yorkshire o fwy nâ 700,000 o eneidiau. Yr oedd yn Yorkshire—
Yn 1790 | 1861 | |
---|---|---|
Eglwysi y Bedyddwyr | 24 | 100 |
Gweinidogion y Bedyddwyr | 22 | 72 |
Aelodau eglwysig | 11,434 | |
Ysgoleigion Sul | 18,433 |
Yn Nghymru—
Yn 1790 | 1861 | |
---|---|---|
Eglwysi y Bedyddwyr | 48 | 545 |
Gweinidogion y Bedyddwyr | 61 | 351 |
Aelodau eglwysig | 64,650 | |
Ysgoleigion Sul | 67,651 |
Yn 1861, yr oedd yn Yorkshire un Bedyddiwr ar gyfer pob 178 o'r boblogaeth, ond yn Nghymru a Swydd Fynwy yr oedd un Bedyddiwr ar gyfer pob ugain o'r trigolion. Mae tuedd y Gymdeithas hon at attal yr hyn a gredir genyf fi sydd yn ddrwg mawr; a hyderaf y bydd i ni yn Nghymru gael cydgyfranogi o'r bendithion y mae ein brodyr Seisnig wedi eu derbyn oddiwrthi."
ARAETH YN EXETER HALL, EBRILL, 1868.
Mr. Cadeirydd,—Ar yr awr hwyr hon, ac un boneddwr arall i'ch anerch etto, nid ydwyf yn gwybod braidd pa lwybr i'w gymmeryd. Fodd bynag, goddefwch i mi grybwyll un o'r ffyrdd drwy ba un y credaf y gellid cario allan yr amcanion a ddymunir yn y penderfyniad ag sydd newydd gael ei gynnyg mor alluog gan Mr. Wassal, a hwnw ydyw, Ymdrechu cael ein pobl ieuainc i deimlo dyddordeb yn hanesiaeth derfynol, gweithgarwch personol, a gobeithion dyfodol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Y mae gan y Gymdeithas hon enw, ac O! na fuasai a lle helaeth yn nghalonau pawb o'n pobl ieuainc. Yr wyf wedi meddwl ac ofni lawer gwaith ein bod ni fel gweinidogion, athrawon yr Ysgol Sul, a phenaethiaid ar yr aelwyd gartref, heb wneyd cwbl gyfiawnder