Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â'r Gymdeithas hon yn ein hymwneyd â'n plant, â deiliaid yr Ysgol Sul, ac â phobl ieuainc ein cynnulleidfaoedd. Mae yn perthyn iddi ffeithiau ag y byddai o les annhraethol iddynt hwy fod yn gynnefin â hwynt, ïe, ffeithiau ag a wna i galonau pawb sydd yn caru gwir wroldeb Cristionogol lamu wrth feddwl am danynt. Pedwar ugain mlynedd yn ol bodolai y Gymdeithas hon yn meddwl, cartrefai yn nghalon, ac anadlai yn ngweddiau un dyn duwiol. Saith deg chwech o flwyddi yn ol daeth yn Gymdeithas weledig, yn cael ei galw i fodolaeth gan y brodyr difrifol hyny a gwrddasant â'u gilydd yn nhy y weddw hono yn Kettering, pryd y tanysgrifiasant cydrhyngddynt y swm o £13 18s. 6ch.; ond gall fentro dweyd fod y swm hwnw, yn gymharol felly, yn fwy nâ'r swm a gasglwyd yma heno, gan ei fod yn £1 os. 10c. yr un o'r cyfarfod bychan hwnw. I'r doeth a'r bydol, i'r anturiaethwr a'r athronydd, ymddangosai y swm hwn yn gwbl annigonol er cychwyn anturiaeth oedd a'i hamcan i argyhoeddi miliynau y byd paganaidd; ond nid felly i'r brodyr da a duwiol hyny yn Kettering. Cyflwynasant hwy y swm hwnw ar allor Duw, a derbyniodd yr Arglwydd ef fel blaenffrwyth o swm o £1,172,342, 7s. Ic. ag sydd wedi ei gyfranu hyd y 31ain o Fawrth yn y flwyddyn bresenol, a phob symiau ychwanegol ag a fydd yn angenrheidiol i gwblhau y gwaith gogoneddus a ddechreuwyd mewn cwbl ymddiried yn Nuw y pryd hwnw (cymmeradwyaeth). Y mae yr ychydig frodyr hyny a gynnullasant yn Kettering, yn anwyl iawn i ni, a gweddiwn yn ddifrifol ar i'w henwau fod megys perarogl yn nghalonau ein plant (clywch, clywch).

Gydag ymddiriedaeth gref yn Nuw, dechreuodd y Gymdeithas weithio mor fuan ag oedd yn bossibl, gan y cawn iddi yn yr Haf dylynol, ar y 13eg o Fehefin, 1793, ddanfon allan William Carey a John Thomas, ar fwrdd llong Ellmynig, ar eu ffordd i India, pryd yr oedd Andrew Fuller a'i frodyr gartref yn cyflwyno yr anturiaeth i nawdd Duw ac haelioni yr eglwysi. Y rhai hyn oeddynt ragredegwyr rhyw 230 o filwyr ffyddlon i Grist, sydd wedi eu danfon allan gan y Gymdeithas hon yn unig, 74 neu 75 o ba rai sydd yr awr hon ar faes y frwydr, yn ymladd yn wrol dros ein Harglwydd (cymmeradwyaeth). Byddai yn anmhossibl i'n pobl ieuainc deallus ddarllen hanes, ac ystyried hunanymwadiad, aberth, sel, a difrifoldeb y llu gwrol sydd wedi bod am saith deg pump o flynyddau yn dal cyssylltiad mor