Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(clywch, clywch)—i gynnyddu eu cyfraniadau i 20 y cant, yn lle 12½. A wna'r Saeson gynnyddu yr eiddynt hwy i 25 y cant? (uchel gymmeradwyaeth). Yna bydd genym £15,000 neu £18,000 yn flynyddol yn fwy nag sydd genym y dydd heddyw, a gallem yn rhwydd gymmeryd meddiant o'r sefyllfaoedd a gynnygir i ni yn India, o Cape Comorin yn y dehau hyd at Lahore yn y gogledd, ac o Burmah yn y dwyrain hyd Bombay yn y gorllewin. Fe ddaw y cyfandir hwn, a'i 200,000,000 eneidiau, i fod yn berl yn nghoron y Gwaredwr, ac yr ydym yn barod i gymmeryd gafael yn y gwaith, ond yn dysgwyl wrth yr eglwysi am eu cymhorth at hyny. Yr ydym yn credu y gwireddir syniadau proffwydoliaethol Dewi Wyn, bardd Cymreig, pan y canodd flynyddau yn ol fel y canlyn:—

"Od aeth y fendith hyd eithaf India,
O'i da ewyllys hi a'i diwalla;
Llwybr i'w chynniwair lle bu arch Noa,
Aed o'r Ararat i dir Aurora,
O'r ynys moried i'r hen Samaria,
Dychwel hi'n dawel i hen Judea,
Cyn hir pregethir ar ben Golgotha,
Neu mewn mawr awydd yn mhen Moria,
Yr Olewydd a Mynydd Amana?
Pwy? Hen eglwysydd penigol Asia;
Cwymp Babel uchel dan bla—yn ei hawr
Wele oleuwawr! Wi! wi! haleliwia!!
Ansawdd oer Ynysoedd Ia,—cynhesed
Eich tir, O! caned, a choed Hercynia!
Dawn Duw'n dwyn newyddion da—i'w hoffdir,
Hermon a Senir. Amen! hosanna!
Daw'r genedl adre i Ganaan—daw ail
Adeiliaw coed Liban,
Daw mil myrdd o demlau mân—mewn purdeb
O odreu Horeb draw i Haran;
Ac hefyd y byd cyfan—a fyn hi
Yn glau goroni, ac ail greu anian!
Nid boddi enaid byddant,
Byd ddaw'n well—bedyddio wnant,
Un buch â'r eunuch yr ânt,—i Grist mwy
O fodd hwy ufuddhant."

Bydded i ni un ac oll gael ein bedyddio ag yspryd yr awdl hon (chwerthin mawr), fel y byddo i ni gael ein deffroi i wneyd yr hyn a allom i ddwyn y byd wrth draed yr Iesu (uchel gymmeradwyaeth).