Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/282

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ARAETH AR Y GENADAETH DRAMOR.[1]

Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr, yn Exeter Hall, y llynedd, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i fynegu:— "Nid yn aml y mae y Pwyllgor wedi bod yn alluog i gyflwyno balance-sheet mor gefnogol a boddhaol a'r un am y flwyddyn hon. Y mae ganddynt i hyspysu yr incwm mwyaf a dderbyniwyd erioed, gyda'r eithriad o flwyddyn y Jubili." Fel hyn, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i dalu pob gofynion yn erbyn y Gymdeithas, a dechreu y flwyddyn gyda swm bychan mewn llaw. Nis gallaf alw i gof unrhyw gyfnod yn hanes y Gymdeithas, oddiar ddyddimiad Caethwasanaeth Jamaica, pan y safai mewn gwell sefyllfa nag y gwna yn bresenol. Yn fasnachol, yr ydym yn alluog i gwrdd â phob hawl yn erbyn y Gymdeithas. Yn gartrefol, yr ydym yn awr yn byw yn ein ty ein hunain—buom un amser fel yr Apostol Paul, yn byw mewn "ty ardrethol" (chwerthiniad); ond yr ydym wedi symmud o'r ty ardrethol yn John Street i'n palas ein hunain yn Castle Street (chwerthiniad). Er nad oes genym ryw gyfnewidiadau mawrion i'w mynegu, nac unrhyw newyddion pwysig i'w gosod ger eich bron; etto, wrth daflu golwg dros yr holl faes a feddiennir gan oruchwylwyr y Gymdeithas hon, y mae genym reswm da dros fendithio Duw, a chymmeryd cysur. Yn China, yr ydym wedi colli dyn da a ffyddlon, yn nghanol ei ddyddiau; ond yr ydym yn diolch i Dduw fod genym un arall i gymmeryd i fyny ei le, yn mherson fy nghydwladwr ieuanc, Mr. T. Richard. Y mae angeu hefyd wedi bod ar waith yn India, ac wedi sym- mud yr anrhydeddus a'r duwiol Mr. Leslie, Calcutta, a'r enwog Mrs. Martin, Serampore; etto y mae gwaith yr Arglwydd yn myned rhag ei flaen yn India. Dydd Gwener diweddaf, derbyniais lythyr hir oddiwrth y brawd Evans, o Allahabad, yn mha un y rhoddai hanes dyddorol o weithrediadau Duw yn y Talaethau Gogledd-Orllewin, a'r tebygolrwydd wedi y flwyddyn hon, i rai o'r eglwysi gynnal eu

  1. Ychydig ddiwrnodau cyn cyfarfod mawr Cambridge, derbyniodd y Dr. delegram, yn ei hyspysu fod Mr. Birrell, Liverpool, yn methu dyfod i'r cyfarfod, ac yn taer erfyn arno ef i gymmeryd ei le yn y cyfarfod mawr cenadol. Felly y bu; traddododd yr anerchiad hwn; ac yr ydym yn cyhoeddi cyfieithad o hono o'r Cambridge Independent Press, lle yr ym. ddangosodd yn llawn Sadwrn, Medi 24ain, 1870.