Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hunain, heb dderbyn rhagor o gymhorth o Ewrop. Y mae ein gwahanol genadaethau yn yr India Orllewinol mewn llawn gwaith; ac oddiwrth fynegiad galluog Dr. Underhill, gallem feddwl fod cyfnod llwyddiannus yn aros ein cenadaeth yn Affrica, pan y mae pob peth o'n hamgylch yn lled arwyddo y dylem gynnyddu ein hymdrechion ugain gwaith yr hyn ydynt yn Ewrop. Gan ein bod yn y sefyllfa ffafriol hon, ni fydd allan o lei gyfeirio at sefyllfa wirioneddol eglwysi y Bedyddwyr yn y Deyrnas Gyfunol yn eu cyssylltiad â Chymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Nid ydym yn awr yn myned i achwyn.

Nid yw y Pwyllgor yn anfon allan apeliadau torcalonus am gynnorthwy i ddyrchafu y Gymdeithas o ddyfroedd dyfnion. Na, yr ydym yn awr mewn sefyllfa dda. Gallwn edrych yn ddigywilydd yn ngwyneb pawb, a thalu u gain swllt yn y bunt; ac yn awr, heb achwyn, gadewch i ni nodi allan rai colliadau, ac awgrymu gwelliant i'r drwg; canys er fod y Gymdeithas heddyw, gydag incwm y flwyddyn ddiweddaf, yn alluog i gwrdd â phob ymrwymiadau, rhaid i ni gofio fod y maes yn barhaus yn eangu; ac nid gwiw i ni freuddwydio am eiliad i ymfoddloni ar gadw ein sefyllfa bresenol yn unig. Bydd genym yn fuan ddau genadwr yn China—Mr. Richard a Dr. Brown—ïe, dau, a dim ond dau, i faes mor eang. Edrychwch wedi hyny ar y maes newydd a phwysig a egyr drwy agoriad ffordd fawr y Dwyrain. Agora hon yr holl wlad rhwng Caercystenyn a Gogledd India. Yna edrychwch yn nes gartref—i Ffrainc, Yspaen, ac Itali. Y mae ein brodyr yno, fel y Macedoniaid gynt, yn gwaeddi o waelodion eu heneidiau, "Deuwch drosodd, a chynnorthwywch ni." Gwn y gall fod rhwystrau ar ein ffordd i agor meusydd newyddion yn Ewrop; ond gadewer i'r eglwysi roddi y moddion wrth law y Gymdeithas, a chilia y rhwystrau fel gwlith y boreu. Onid yw'r amser wedi dyfod, pan mae Arglwydd y lluoedd ar "siglo y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r tir sych," gan chwyrndaflu oddiar eu gorseddau drawsfeddiannwyr iawnder a rhyddid, fel y byddo i Efengyl ei Fab gael ffordd rydd, a chael ei gogoneddu. Bydded i'r penau coronog uchelfrydig ag ydynt yn aros gymmeryd gwers oddiwrth yr hyn sydd wedi dygwydd i Ferdinand o Naples, Theodore o Abyssinia, Lopez yn Nehaubarth America, Maximilian yn Mexico, Isabella yn Yspaen, ac yn ddiweddaf oll, Napoleon ac Eugenie, y cyntaf yn llettywr anfoddog yn Germani (cymmeradwy-